fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | May 07, 2020

Byddwn yn edrych nôl ar gast a chriw ‘Their Finest’, comedi rhamantus wedi’i osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dreuliodd nifer o wythnosau’n ffilmio yn Abertawe yn ystod Hydref 2015.

Mae Diwrnod VE (Buddugoliaeth yn Ewrop) eleni’n nodi 75 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop, ac wrth i ni goffáu’r rheini a laddwyd, cofiwn hefyd am y straeon a ysbrydolwyd gan Brydain adeg y rhyfel sydd wedi bod yn rhan fawr o’n diwylliant ers hynny.

Yn benodol, byddwn yn edrych nôl ar gast a chriw ‘Their Finest’, comedi rhamantus wedi’i osod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dreuliodd nifer o wythnosau’n ffilmio yn Abertawe yn ystod Hydref 2015.

Yn cynnwys Gemma Arterton, Sam Clafin, Bill Nighy a Jeremy Irons, mae’r ffilm yn adrodd stori tîm Gweinyddiaeth Wybodaeth Prydain wrth iddynt fynd ati i greu ffilm i godi calonnau am ymgiliad Dunkirk yn ystod Brwydr Prydain a Blitz Llundain.

Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith ffilmio yn Neuadd y Ddinas, ac nid oedd angen ei haddasu llawer i wneud iddi edrych yn debyg i swyddfeydd y Weinyddiaeth Ryfel yn Whitehall yn y 1940au. Gweithiodd aelodau’r tîm Joio Bae Abertawe/Croeso Bae Abertawe yn agos gyda chwmni cynhyrchu’r ffilm i sicrhau bod y gwaith ffilmio mor ddi-ffwdan â phosib.

 

“Roedd Abertawe’n safle gwych i ni, gwestai da, dim ond taith fer mewn car i bob lleoliad gyda digonedd o gyfleusterau parcio a mynediad i’n hadrannau, ynghyd â phobl gyfeillgar. Yn greadigol, daethom o hyd i leoliadau cyfnod ardderchog (diwedd y 30au, dechrau’r 40au), yn enwedig y tu mewn i Neuadd y Ddinas, a oedd yn hynod debyg i’r tu mewn i Senate House yn Llundain, a doedd dim angen newid llawer o gwbl. Ar ddiwrnodau bant, roedd ein cast a’n criw’n gwneud defnydd helaeth o’r traethau hardd gerllaw hefyd!”

Amanda Posey a Stephen Woolley, Cynhyrchwyr, Their Finest

Y lleoliadau eraill a ddefnyddiwyd oedd Theatr y Grand Abertawe, a oedd yn edrych yn debyg iawn i theatr sinematig, Glamorgan Street, a’r lôn y tu ôl i Rhyddings Park Road.

Mae ‘Their Finest’ yn ffrydio ar Prime Video a You Tube i chi gael ei weld.