fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | April 29, 2020

Joio Fae Abertawe #gartref

Gall teuluoedd sy’n chwilio am ffyrdd newydd o dreulio’u hamser gartref yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud Coronafeirws gael syniadau newydd gan dîm Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe.

Bydd cyfres newydd o adnoddau gan lyfrgelloedd, lleoliadau diwylliannol a’r tîm Chwaraeon ac Iechyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o ymgyrch newydd gan dîm Joio Bae Abertawe y cyngor.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ein llyfrgelloedd a’n lleoliadau diwylliannol wedi cau dros dro ac mae gwasanaethau eraill wedi’u gohirio dros dro i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac amddiffyn y GIG, ond mae digonedd o adnoddau ar gael i bobl eu mwynhau gartref.

“Mae’r timau ar draws y Gwasanaethau Diwylliannol wedi llunio rhai syniadau a gweithgareddau gwych y gall unigolion a theuluoedd eu mwynhau er mwyn ymarfer eu meddyliau a’u cyrff yn feunyddiol dros yr wythnosau nesaf.

Gellir dod o hyd i’r holl fanylion ar gyfer gweithgareddau difyr, gwybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer ffitrwydd yn yma ac maen nhw’n cynnwys eitemau megis:

Dysgu Llythrennedd gyda’r Llyfrgelloedd

Aelodaeth llyfrgell am ddim yw eich allwedd i filoedd o adnoddau ar-lein, gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau, e-gomics, papurau newydd a chymorth gwaith cartref.

Mwy o wybodaeth

Dylan Thomas – Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’

Archwiliwch yr arddangosfa ryngweithiol a dysgwch am rai o’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos, yn ogystal â chael cipolwg ar waith a bywyd un o awduron mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.

Mwy o wybodaeth

Mymi a Mwy yn Amgueddfa Abertawe

Mae Amgueddfa Abertawe’n cyhoeddi cyfres o flogiau, gan dynnu ar wrthrychau yn ei chasgliad i adrodd straeon diddorol am bobl a lleoedd Abertawe fel y gallwch ddarganfod rhagor am orffennol Abertawe yn eich cartref eich hun.

Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau

Cymerwch gip yn ôl ar rai o’r digwyddiadau a gynhaliwyd dros y blynyddoedd megis Sioe Awyr Cymru, y cyngherddau niferus, tân gwyllt a Gorymdaith y Nadolig a fydd, gobeithio, yn rhoi gwên ar eich wyneb ac yn siŵr o ddod ag atgofion melys yn ôl am ddigwyddiadau Abertawe o’r gorffennol.

Mwy o wybodaeth

Hwyl a Ffitrwydd

Bydd y Tîm Chwaraeon ac Iechyd yn sicrhau eich bod yn cadw eich corff a’ch meddwl yn iach gyda’i sesiynau ffitrwydd a gweithgareddau i’w gwneud gartref, sy’n addas ar gyfer pob gallu.

Mwy o wybodaeth

Castell Ystumllwynarth

Gyda digonedd o wybodaeth, ffeithiau rheolaidd a gweithgareddau difyr, gallwch archwilio rhannau o’r castell sydd wedi bod yn guddiedig am ganrifoedd yn ogystal â dysgu mwy am hanes cyffrous y castell.

Mwy o wybodaeth

Bod yn greadigol gydag Oriel Gelf Glynn Vivian

Parhewch i fod yn greadigol a mwynhewch archwilio pethau gwych i’w gweld, eu creu a’u gwneud. Bydd yr Oriel yn arddangos rhai o uchafbwyntiau ei chasgliad, archif ei harddangosfeydd, gwaith ei chymunedau a hefyd gwaith gan ei hartistiaid cyswllt.

Mwy o wybodaeth

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Cynhelir gweithgareddau wythnosol megis cyngor ac awgrymiadau ar hanes teulu, eitemau diddorol o’u casgliad, clipiau o ffilmiau a hyd yn oed gwis – dyma rai o’r eitemau y bydd y tîm yn eu darparu.

Mwy o wybodaeth