fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | February 11, 2020

Ychydig o ddiwrnodau'n unig sydd i fynd cyn dydd Sain Folant ...

… ac os nad ydych wedi trefnu unrhyw beth eto, peidiwch â phoeni, cymrwch gip ar ein Deg Noson Mas Gorau Gyda’ch Cariad ar gyfer y person arbennig hwnnw!

 

 

Ystafelloedd Rhamantus yng Ngwesty Morgans

Sbwyliwch y person arbennig hwnnw drwy aros y nos yn un o’r ystafelloedd gwestai moethus y dydd Sain Folant hwn a chewch Ystafell Ramantus well am ddim sy’n cynnwys potel o Prosecco, bocs o siocledi ynghyd â phetalau rhosod ar ôl cyrraedd.

Mae ystafelloedd ar gael o £125 yr ystafell. Byddwch hefyd yn cael parcio am ddim a brecwast blasus Cymreig. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Danteithion blasus yng nghanol penrhyn Gŵyr.

Cewch fwynhau pryd Sain Folant rhamantus 3 chwrs ym Mharc le Breos, sef plasty ar dir Parc Ceirw Normanaidd yng nghanol penrhyn Gŵyr ar 14 neu 15 Rhagfyr, am £39.95 y pen. Bydd hyd yn oed plât o siocledi i’w rhannu rhwng dau – os ydych chi’n fodlon rhannu! A gallwch aros dros nos hefyd! Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Sbwyliwch y person arbennig hwnnw ym Mwyty ‘Y Clogwyn’

Eog Mwg Abertawe gyda Polenta wedi’i bobi, i ddilyn hyn Sorbed Gaeaf i orffen a joch o jin Cygnet Pink…swnio’n dda? Mae gweddill y fwydlen yn swnio’r un mor flasus! Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 

Rhamant ar y Tawe

Oes awydd arnoch chi i wneud rhywbeth gwahanol ar ddydd Sain Folant? Ewch â’ch cariad ar fordaith ramantus 90 munud o hyd ar fwrdd y Copper Jack! Cewch fwynhau prosecco a cherddoriaeth fyw – ond mae tocynnau’n brin felly archebwch nawr – £10 y person.

Cariad ‘a la carte’ yn y Mwmbwls

Rhowch drît i’ch anwylyn gyda phryd o fwyd rhamantus ym mwyty Bistrot Pierre yn y Mwmbwls, sy’n edrych dros fae godidog Abertawe. Cewch fwynhau pryd o fwyd 3 chwrs a gwydraid o Veuve Devienne am £29.95 y person (mae’r cynnig ar gael ar y 14 a’r 15 Rhagfyr). Mae eu prydau rhannu poblogaidd yn ôl ar y fwydlen gan gynnwys Camembert Normandi wedi’i bobi’n gyfan a phlât rhannu pwdin yn cynnwys crème brulee, tarte au citron a browni siocled. Cadwch le nawr.

Mae aros i mewn cystal â noson mas

Ewch i Farchnad Abertawe – Marchnad Dan Do Fawr Orau y DU – i brynu cynnyrch ffres a chreu eich pryd rhamantus eich hun o gysur eich cartref. Dewiswch o blith y bwyd môr lleol ffres (cocos a bara lawr?), stêcs o gigyddion lleol (gyda llysiau ffres o benrhyn Gŵyr) a gorffen gyda phice ar y maen yn ffres o’r maen. Cofiwch alw heibio i’r siop flodau cyn i chi adael (gair i gall!)…

Gyrru eich gilydd yn benwan!

Yn llythrennol! Mae gan Skidz Karting gynnig Sain Folant arbennig ar eich cyfer ar 14 Chwefror – £30 y cwpl yn unig! Nodwch gyfeirnod y cynnig: VALFB20. Gadewch i ni weld pwy fydd y gyrrwr gorau – dim dadlau os gwelwch yn dda, mae’n ddydd Sain Folant wedi’r cwbl!

 

 

Syniad rhamantus sy’n rhad ac am ddim…

Ewch â’r person arbennig hwnnw am daith gerdded ramantus i Ben Pyrod ac ar hyd Bae Rhosili. Beth am ddal dwylo neu gerdded braich ym mraich a mwynhau golygfeydd godidog yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Yn galw ar bobl sy’n dwlu ar gerddoriaeth!

Ewch i Theatr y Grand Abertawe am noson o gerddoriaeth yng nghwmni’r canwr/cyfansoddwr/perfformiwr stryd, John Adams. Gyda llais sy’n gallu cyrraedd yr un nodau a chantorion fel Sam Smith a James Blunt, caiff ei ysbrydoligan gyfansoddwyr gonest fel James Morrison, Damien Rice a David Gray.

 

 

Gallwch fwyta, aros dros nos, a mynd am dro ar hyd Bae Oxwich yng ngolau’r lleuad 

Sbwyliwch eich hunain ar y noson arbennig hon o’r flwyddyn gyda phryd o fwyd i ddau ac ystafell ramantus yng Ngwesty Bae Oxwich. Gyda rhosyn coch a siocledi i’w rhannu, beth am ddod â’r noson berffaith hon i ben trwy fynd am dro yng ngolau’r sêr ar hyd y traeth.

Pryd o fwyd blasus 4 cwrs am £30 neu becyn yn cynnwys pryd ac aros dros nos am £120 – rhosyn coch, siocledi a brecwast llawn y bore canlynol. Cadwch le nawr.