fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy
BLOG | February 06, 2020

Mwynhewch Flwyddyn Allan unigryw!

Does dim angen pasbort, does dim angen newid arian… ewch ar fws neu drên neu mewn car i Fae Abertawe am eich #cyfnodallan, gan ddilyn Ffordd Bae Abertawe, i fwynhau llu o brofiadau gwefreiddiol am brisiau rhesymol!

 

Rydym wedi llunio rhestr o’r profiadau a’r gweithgareddau gorau ar gyfer eich cyfnod o brofiadau blwyddyn allan y gallwch roi cynnig arnynt yma ym Mae Abertawe. Cofiwch ychwanegu’ch rhai eich hun a dweud wrthym beth wnaethoch chi – @baeabertawe #FforddBaeAbertawe #MyMicroGap #loveUK

  1.  Ydych chi dal i weld eisiau ‘I’m a Celebrity… Get me out of here?’ Crëwch eich profiad arddull y jyngl eich hun yma ym Mae Abertawe gyda Dryad Bushcraft a rhowch gynnig ar chwilota am fwyd, cynnau tân ac adeiladu lloches! Efallai na fydd unrhyw Bushtucker Trials ond ni allwn warantu na fydd unrhyw bryfetach yn cadw cwmni i chi!
  2. Dechreuwch y Flwyddyn Newydd drwy ddilyn #FforddBaeAbertawe! Gwisgwch eich dillad nofio, cydiwch yn eich bwrdd a’ch rhwyf ac ewch ar y môr gyda Gower Stand up Paddle – mae’r dŵr ychydig yn oer ond dim ond os gwnewch chi golli’ch cydbwysedd a chwympo i mewn!
  3. Darganfyddwch eich Tarzan mewnol ac ewch i Go Ape Margam am wifrau sip, siglenni Tarzan ac ysgolion rhaff.
  4. Mae Down to Earth yn cynnig antur eco gan ddilyn #FforddBaeAbertawe! Dringwch goeden, cerfiwch eich ffon gerdded eich hun a phobwch eich pizza eich hun mewn ffwrn ddaear tân coed.
  5. Dringo, neidio, sblasio, nofio, a’u hailadrodd! Cewch fwynhau arfordiro ar hyd bae arobryn Rhosili gyda Gower Activity Centres!

6.  Ddim yn or hoff o’r dŵr? Dim problem! Arhoswch ar dir sych a dysgwch sut i fygi-farcuta neu dirfyrddio â barcut ar hyd Bae Abertawe gyda Gower Kite Riders. Mae digon o le i chi ymarfer y symudiadau newydd clyfar hynny.

7.  Ydych chi’n dwlu ar wefrau? Camwch ar fwrdd Zap Cat neu gwch pŵer gyda Oxwich Bay Watersports a chewch fwynhau antur arfordirol a fydd yn siŵr o’ch cyffroi!

8.  Mae’n bryd i chi syrffio! Ac mae gennym amrywiaeth o draethau lle gallwch ddewis eich ton berffaith … cysylltwch ag Welsh Surfing Federation Surfing School  am fanylion.

9.  Rhowch gynnig ar abseilio ar hyd bae arobryn y Tri Chlogwyn gydag Gower Adventures a chewch fwynhau’r golygfeydd trawiadol!

10.  Cewch gyfle i werthfawrogi natur a darganfod y bywyd morol anhygoel sydd yma ym Mae Abertawe! Cewch eich rhyfeddu gan forloi, dolffiniaid a llamhidyddion a chewch ddysgu mwy am ein cyndadau cynhanesyddol gyda Gower Coast Adventures.

Mae llawer mwy o weithgareddau cyffrous i roi cynnig arnynt ym Mae Abertawe. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfnod allan yn un i’w gofio ac ewch yma am fwy o syniadau!