fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy
BLOG | January 21, 2020

Nid yw nawddsant cariadon Cymru yn aros am fis Chwefror

… mae hi’n barod i ailgynnau rhamant pan fydd ei hangen arnom, yng nghanol mis oer Ionawr. Gyda’r Nadolig wedi hen fynd a’r Gwanwyn eto i ddod – mae Santes Dwynwen yn ein hatgoffa bod gwir gariad gyda ni o hyd i’n cadw gynnes.

 

Ond pwy oedd Santes Dwynwen? Roedd hi’n dywysoges brydferth o’r bumed ganrif a oedd yn hanu o Fannau Brycheiniog ac ar ôl i’w thad wrthod gadael iddi briodi ei gwir gariad, Maelon, gweddïodd Dwynwen y byddai’n ei hanghofio. Rhoddodd angel ddiod i Dwynwen er mwyn iddi anghofio amdano a throi Maelon yn iâ! Cafodd Dwynwen dri dymuniad. Gyda’r dymuniad cyntaf dewisodd ddadlaith ei gwir gariad, gyda’r ail, dymunodd y byddai gwir gariadon yn gwireddu eu breuddwydion a gyda’i thrydydd, dymunodd na fyddai hi ei hun fyth yn priodi. Gwireddwyd ei dymuniadau ac i ddiolch sefydlodd Dwynwen leiandy oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

 

Mae gennym 5 lle perffaith lle gallwch ddweud ‘dwi’n dy garu di’ dair wythnos cyn i San Ffolant gyrraedd!

Rhodd o lwy garu – ewch i ymweld â’r Oriel Llwyau Caru yn y Mwmbwls a dewiswch ffordd unigryw Gymreig o ddweud ‘Rwy’n dy garu di’, drwy roi llwy garu bren a gerfiwyd â llaw yn rhodd.

 

 

 

Mwynhewch y rhamant – mae gan Benrhyn Gŵyr leoliadau hudol hyfryd llawn dirgelwch ar gyfer mynd am dro rhamantus. Ewch â’ch Brenin Arthur neu Guinevere am dro drwy’r wlad hyd at Faen hudolus Ceti (Carreg Arthur).

Bwyd blasus – beth am roi trît arbennig i’ch cariad drwy fynd am bryd o fwyd Santes Dwynwen arbennig tri chwrs wedi’i ysbrydoli gan Gymru, ac wedi’i greu gan ein cogyddion arobryn yng Ngwesty Bae Oxwich

 

 

 

 

Beth am roi cynnig ar Rosili? – ai Rhosili gwyllt a gwyntog yw ein lleoliad mwyaf rhamantus? Mae’n lleoliad poblogaidd i holi’r cwestiwn mae hynny’n sicr, ac er bod eleni’n flwyddyn naid does dim rhaid i chi aros tan 29 Chwefror. Byddai Santes Dwynwen yn croesawu hynny!

Cynhesu mewn caffi – gwisgwch yn gynnes ar gyfer mynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir, yna cynheswch mewn caffi cynnes gyda siocled poeth – peidiwch ag anghofio’r hufen chwip a’r malws melys – mae’n achlysur arbennig wedi’r cwbl!