fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | December 20, 2019

...ond rydym wedi bod yn dathlu trwy'r flwyddyn!

… ac am flwyddyn!

Ym 1969 rhoddodd y Frenhines statws dinas i Abertawe, felly yn ystod 2019 rydym wedi bod yn dathlu pen-blwydd mawr – 50 mlynedd fel dinas! Wrth i ni agosáu at 2020, roeddem yn meddwl y dylem edrych yn ôl ar flwyddyn wych a hefyd edrych ar y rhesymau pam yr oedd y Frenhines yn meddwl bod Abertawe’n haeddu acolâd o’r fath 50 mlynedd yn ôl!

Yn ystod 2019 roedd ein dinas yn wridog o oleuni euraid ein hanner canmlwyddiant, gwnaethom fwynhau arddangosiadau awyr, tân gwyllt anhygoel, digwyddiadau cerddoriaeth gwych a dathliadau gyda phobl enwog – dyma grynodeb cyflym!

Felly, pa mor bell y mae dinas Abertawe wedi dod mewn 50 mlynedd?

Nid yw 50 yn swnio’n hen iawn, nad yw? Efallai fod gennym wreiddiau hynafol, a osodwyd gan Lychlynwyr ac arglwyddi canol oesol, ond rydym hefyd yn un o’r lleoedd mwyaf ffres, bywiog a chyffrous i fyw ac ymweld â hi.

Gadewch i ni ddechrau

Fel yr ysgrifennodd ein mab enwocaf, Dylan Thomas un tro, ‘To begin at the beginning’. Rhoddwyd statws dinas i Abertawe yn ystod blwyddyn arwisgiad y Tywysog Charles. Ar 3 Gorffennaf, cyhoeddodd Tywysog newydd Cymru’r newyddion o risiau Neuadd y Ddinas. Ar 15 Rhagfyr, dychwelodd i Abertawe i gyflwyno’r siarter ddinesig mewn seremoni yn Neuadd Brangwyn.

Yn ôl i’r dyfodol

Mae Abertawe wedi tyfu mewn maint ac amrywiaeth ers hynny. Gyda phoblogaeth o bron chwarter miliwn, ni yw’r 25ain dinas fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn flaengar, gyda nifer mawr o fyfyrwyr, dwy brifysgol ac awyrgylch bywiog. Ond mae Abertawe hefyd yn gynnyrch o’i gorffennol, wedi’i seilio ar hanes, treftadaeth a diwylliant cyfoethog.

Dinas gartrefol

Mae Abertawe’n ddinas gyfforddus o ran graddfa ddynol – dinas o faint addas, mewn lleoliad addas. Mae lleoliad yn sicr yn chwarae rhan fawr. Mae ein ffiniau’n cynnwys yr holl bethau gorau am dde Cymru, o fryniau gwarcheidiol yn y gogledd i’r mannau gwyrdd ar ymyl traeth tywodlyd Bae Abertawe sy’n wynebu’r de.

Dinas diledryw

Rydym yn ddinas y glannau hefyd, gyda pherthynas agos â’r môr. Ac er ein bod ni’n canolbwyntio ar y ddinas yma, mae’n rhaid i ni sôn am ein cymdogion arbennig iawn: Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain a chyrchfan dymunol y Mwmbwls, sydd 10 munud yn unig i lawr y ffordd.

Amlygu Abertawe

Felly, sut gallwn grynhoi Abertawe? Mae hynny’n anodd. Rydym yn ddinas ddiddorol sy’n llawn cyferbyniadau – ac mae’n ddinas well o ganlyniad i hyn. Un funud rydych chi yng Nghymru draddodiadol, yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn ein marchnad bwyd ffres enwog. A’r funud nesaf rydych chi ar frig ton newydd yn ein Hardal Forol grand a Glannau newydd sbon SA1.

Mae Abertawe’n blasu fel cocos a cappuccinos. Mae ein huchafbwyntiau treftadaeth yn cynnwys yr amgueddfeydd hynaf a mwyaf newydd yng Nghymru. Rydym yn gartrefol ac yn gosmopolitaidd, yn fodern ac yn hwyliog. Dyma’r math o le lle gallwch gerdded ar lan y môr a mwynhau bywyd yn y ddinas ar yr un pryd.

Y bennod nesaf

Fel y gallwch weld, mae gennym seiliau cryf i adeiladu arnynt a dyna’r hyn rydym yn ei wneud! Rydym yn gwella’n dinas ar gyfer y 21ain ganrif gyda chynlluniau i wyrddio canol y ddinas ac rydym yn adeiladu arena newydd â 3500 o seddi sydd o fewn pellter cerdded o letyau, bwytai ac atyniadau eraill. Mae gennym enw da cynyddol eisoes am fyd cerddoriaeth amrywiol – ac mae’n sicr o wella a gwella!

Dewch i’n helpu ni i lunio’n pennod nesaf; cynlluniwch wyliau’r gwanwyn ym Mae Abertawe a gallwch fwynhau seibiant dinesig, ar lan y môr drws nesaf i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – gallwch ddod o hyd i bopeth yma!

Gwyliau’r gwanwyn #FforddBaeAbertawe