fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 21, 2019

Dyma'n 7 Digwyddiad Calan Gaeaf Gorau:

Ydych chi’n cynllunio gwyliau hanner tymor gyda’r plant? Ewch i Fae Abertawe am ddigwyddiadau arswydus!

Ddim yn hoff o nos galan gaeaf? Dim problem – dyma rai awgrymiadau ar gyfer hwyl heb y bwganod hefyd!

1. Nosweithiau Parti Calan Gaeaf yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr (Nos Fercher 30 a Nos Iau 31 Hydref, rhwng 6pm a 9pm)

 Mwynhewch noson o ddawnsio dychrynllyd, cystadlaethau di-ri, straeon arswyd, cerfio pwmpenni, afalau ar raff, crefftau iasol, dowcio am afalau, teithiau bwganllyd, creu diodydd hud, Sioe Iasol yr Ysgol Bwganllyd – gan gynnwys creu hyd a lledrith, Uwch-hyfforddiant Ysgubau, dawnsio gydag angenfilod, cystadlaethau gwisg ffansi a llawer mwy! Bydd gwestywr gwaedlyd yn cynnal y sioe gyfan, a bydd helfeydd ysbrydion a helfeydd ystlumod! Codir tâl mynediad arferol.

2. Castell Bwganllyd Ystumllwynarth yng Nghastell Ystumllwynarth (nos Fercher 30 a nos Iau 31 Hydref, rhwng 5.30pm a 9.30pm)

Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel bob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.

Gan droedio’n ofalus, yn eich gwisg ffansi mwyaf dychrynllyd, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o amgylch pob cornel? Gyda’r goleuadau wedi’u diffodd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw? Ydych chi’n ddigon dewr i ganfod mwy? Beth bynnag y byddwch yn ei wneud, peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen! Yn addas i blant 9+ oed. Prynwch eich tocynnau nawr.

3. CSI Abertawe – Llofruddiaeth yn yr Amgueddfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, nos Fercher 30 Hydref, 7pm

Mae’n nos Galan Gaeaf yn yr Amgueddfa… ac mae rhywbeth mawr o’i le ar noson agoriadol yr arddangosfa newydd..! Allwch chi helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd?

Dewch draw i’r orielau i ymuno â’r Tîm Archwilio Trosedd, a defnyddiwch dechnegau gwyddonol go iawn i astudio’r dystiolaeth a darganfod pwy yw’r drwgdybyn. Yn addas i blant 12+ oed. Prynwch eich tocynnau nawr.

4. Melltith Maia: Plantasia Gyda’r Hwyr ym Mhlantasia, nos Fercher 30 Hydref, rhwng 5.30pm a 9.30pm

Ers i blanhigion gael eu hadleoli o fforest law hynafol Maia, mae Tîm Plantasia wedi anwybyddu cyngor i gynnig rhoddion i ysbrydion Aluxian.

Mae 13 o flynyddoedd bellach wedi mynd heibio, ac mae’r ysbrydion yn gryfach ac yn fwy direidus nag erioed.

Oes gennych chi’r hyn y mae ei angen i ddod o hyd i’r ffordd trwy’r duwiau, a gosod eich offrwm i’w tawelu?

Mwynhewch ddiod calan gaeaf AM DDIM, tocyn dydd i ddychwelyd AM DDIM, rhowch gynnig ar ein Gwledd Chwilod yng Nghaffi’r Canopi a rhowch gynnig ar ein Her Chwilod Duon. Yn addas i blant 12+ oed. Prynwch eich tocynnau nawr.

5. Dawns Angenfilod i Deuluoedd ar Bier y Mwmbwls, nos Iau 31 Hydref, 5.30pm

Digwyddiad dychrynllyd i oedolion a phlant gyda digonedd o driciau a hyd yn oed mwy o ddanteithion! Gall yr holl deulu wisgo gwisg ffansi a dawnsio gyda’r angenfilod yn ystod ein Disgo Calan Gaeaf gyda cheidwad y cryptau, DJ Siany. Cystadleuaeth gwisg ffansi i bob oedran a gemau i bawb. Yn ogystal â’n Cystadleuaeth Pwmpenni a llawer mwy. Prynwch eich tocynnau nawr.

6. Hwyl Calan Gaeaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, dydd Iau 31 Hydref rhwng 12pm a 4pm

Enjoy an unmissable day of free spooky fun, in our mysterious Museum setting! Meet some unusual characters, listen to ghostly tales. Create some creepy crafts. Mwhahahaha!!!!

7. Hwyl Calan Gaeaf dros hanner tymor yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr, dydd Llun 28 Hydref i ddydd Gwener 1 Tachwedd, rhwng 10am a 5.30pm

Hwyl Calan Gaeaf dros hanner tymor yng Nghanolfan Treftadaeth Gŵyr, dydd Llun 28 Hydref i ddydd Gwener 1 Tachwedd, rhwng 10am a 5.30pm

Cliciwch yma am ragor o ddigwyddiadau Calan Gaeaf…