fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 17, 2019

Os ydych chi’n bwriadu mynd ar wyliau neu seibiant byr yr hydref hwn a hoffech gadw’r gost yn isel, does dim angen edrych ymhellach!

Dyma’n rhestr o’r pump peth orau i’w gwneud pan fyddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr yr hydref hwn, ac mae pob un ohonynt yn rhad…

1. Archwiliwch Lwybr Arfordir Gŵyr

Mwynhewch olygfeydd ardderchog o’r arfordir, cadwch yn heini, ymlaciwch – gallwch wneud y cyfan am ddim! Mae gennym 38 o filltiroedd o Lwybr Arfordir Gŵyr y gallwch chi eu harchwilio, ond does dim angen i chi wneud y cyfan mewn un tro! Lawrlwythwch y map a chynlluniwch eich llwybr…a chofiwch dynnu lluniau da!

2. Yn galw ar bawb sy’n dwlu ar gerddoriaeth!

Ewch i Amgueddfa Abertawe i weld ei harddangosfa sy’n dathlu ’50 mlynedd o gerddoriaeth yn Abertawe!’ (a arddangosir tan 5 Ionawr 2020) am ddim!  Mwynhewch daith trwy dreftadaeth gerddorol Abertawe ers 1969, gan gynnwys lleoliadau, pobl bwysig, cyngherddau trawiadol a cherddorion lleol a’r rhai a fu’n ymweld â’r ddinas.

3. Darganfod Dylan

Gallwch gael Diwrnod Dylan trwy fynd i Ganolfan Dylan Thomas (mynediad am ddim) i ddarganfod rhagor am Dylan yn yr arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.

Wedyn, ewch i Uplands i gamu’n ôl mewn amser i 1914 yn 5 Rhodfa Cwmdoncyn, sef man geni Dylan a’i gartref pan oedd yn blentyn. Gellir dadlau mai dyna’r tŷ enwocaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, a bu Dylan yn byw yno gyda’i deulu am 23 o flynyddoedd cyntaf ei fywyd, a dyma lle ddechreuodd ysgrifennu. Mwynhewch daith dywys am £8 y person. Gallwch aros dros nos a chael pryd o fwyd yma hefyd (gweler y wefan am brisiau).

4. Celf o safon

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn oriel gelf arobryn a chwblhawyd gwaith ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar, sy’n golygu mai dyma un o leoliadau diwylliannol gorau Abertawe (ac mae mynediad am ddim!). Mae’r oriel yn gartref i arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd â gwaith artistiaid lleol, gweithdai a chlybiau ffilmiau. Mae arddangosfeydd yr hydref yn cynnwys ‘Straeon Abertawe’, sy’n dathlu 50 mlwyddiant Abertawe fel dinas trwy arddangos gwaith o’r 18fed ganrif hyd heddiw yn ogystal ag arddangosfa unigol gan Sophy Rickett sy’n dwyn ysbrydoliaeth o fywyd a gwaith Thereza Dillwyn Llewelyn, artist a seryddwr o Abertawe a oedd yn weithredol ar ddiwedd y 19eg ganrif.

5. Golau, camera, amdani!

Ewch i Ganolfan Celfyddydau Taliesin yr hydref hwn am dymor o ddrama, dawns draddodiadol a chyfoes, theatr gorfforol, cerddoriaeth y byd, cerddoriaeth jazz ac ymgyfunol, cerddoriaeth glasurol, ac amrywiaeth o berfformiadau byw i blant. Gweler ein gwefan am brisiau tocynnau.

Dyma flas yn unig; ewch i’n gwefan am ragor o bethau i’w gwneud a lleoedd i aros ym Mae Abertawe’r hydref hwn!