fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | October 11, 2019

Mae’r gwyliau haf wedi dod i ben, ond mae’n ddigon cynnes o hyd i fwynhau nosweithiau’r hydref gyda phryd o fwyd blasus i’w fwynhau yn yr awyr agored…

Dyma’n hoff leoedd i fwyta yn yr awyr agored ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr.

  1. Gwesty The King Arthur

Tafarn a bwyty teuluol gwledig ym mhentref hyfryd Reynoldston, Gŵyr, sy’n gweini prydau cartref sy’n amrywio o glasuron tafarn rhagorol i bysgod a ddaliwyd yn lleol a helgig tymhorol. Mae gan westy The King Arthur ardal eistedd yn yr awyr agored lle gallwch fwynhau lleoliad heddychlon cefn gwlad wrth fwynhau’ch hoff bryd o fwyd!

  1. Verdi’s

Mae bwyty Verdi’s yn arbenigo mewn pizzas a seigiau pasta go iawn yn ogystal â hufen iâ Eidalaidd gyda hufen ffres arobryn mewn hyd at 30 o flasau, bara, teisennau, sgonau, teisennau crwst, semifreddo a phwdinau cartref. Wedi’i leoli yn y Mwmbwls, gallwch fwynhau pryd o fwyd yma wrth fwynhau golygfeydd godidog dros ehangder pum milltir Bae Abertawe.

  1. Gwesty Bae Oxwich

Lleoliad gwych i fwynhau pryd o fwyd yn yr awyr agored wrth fwynhau golygfeydd gwefreiddiol o Fae Oxwich. Mae Gwesty Bae Oxwich yn cynnig prydau o fwyd cyfoes sy’n defnyddio cynhwysion ffres a thymhorol ac mae’r prydau sydd ar gael yn amrywio o ffefrynnau megis selsig a thatws stwnsh i brydau arbennig megis lleden chwith wedi’i ffrio mewn padell wedi’i gweini gydag opsiynau llysieuol a feganaidd.

  1. Bwyty’r Beach House

Mae Bwyty’r Beach House sydd mewn lleoliad perffaith ar lan y môr ym Mae Oxwich, yn gweini’r cynnyrch lleol gorau gan gynnwys cimwch Bae Oxwich a chig oen morfeydd heli Gŵyr – y cyfan ar garreg eich drws!

  1. The Ship Inn

Tafarn deuluol draddodiadol yng nghanol Porth Einon yw The Ship Inn â décor mordwyo gwledig. Beth am roi cynnig ar bysgodyn neu halloumi mewn cytew a wnaed gyda Chwrw Aur Gŵyr?

  1. Langland’s Brasserie

Profiad bwyta gwych ar y traeth mewn man diarffordd sy’n edrych dros fae godidog Langland. Bwyty arobryn yw Langland’s Brasserie sy’n gweini brecwast, coffi, teisennau, cinio a phrydau gyda’r hwyr. Mae’n arbenigo mewn bwyd môr yw un o brydau arbennig y bwyty ac mae pysgod ffres yn cael eu gweini’n ddyddiol ac mae bwydlen tapas ar gael yn ardal y bar.

  1. Swigg

Bwyty/bar tapas yng nghanol marina Abertawe. Mae’r tîm yn The Swigg wedi creu bwydlen sy’n darparu blas unigryw o Gymru yn ogystal â rhai o’u hoff seigiau o bedwar ban byd, wedi’u gweini ar blatiau bach.

  1. Bistrot Pierre

Bwyty glan môr yn y Mwmbwls â golygfeydd panoramig o fae hyfryd Abertawe sy’n cyfuno clasuron y bistrot Ffrengig, fel steak-frites, boeuf bourguignon a crème brûlée gyda’n fersiynau ni o ffefrynnau rhanbarthol.

  1. Nomad Bar & Kitchen

Wedi’i ysbrydoli gan yr amrywiaeth eang o gynhwysion a phrydau a ddarganfuwyd wrth fyw a theithio ar draws Ewrop, mae gan Nomad Bar & Kitchen amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd unigryw o gynhyrchwyr bach o safon nad ydynt i’w gweld fel arfer ar y stryd fawr ac mae cynaladwyedd wrth wraidd y busnes. Yn Nhre-gŵyr mae Nomad ac mae ganddo ardal fwyta fach awyr agored.

  1. The Lookout, Rhossili

Wedi’i leoli yng nghanol Rhosili gyda golygfeydd hyfryd o Fae Rhosili, mae The Lookout yn gweini teisennau a wnaed o gynnyrch lleol ynghyd â pizzas, paninis a brechdanau a wnaed yn ffres a Gower Coffee a hufen iâ enwog Joe’s.

  1. The Beaufort Arms

Dewch i fwynhau bwyd tafarn o safon yn yr adeilad hwn yng Ngŵyr sy’n 600 oed neu beth am eistedd yn yr awyr agored gyda’ch anifail anwes a rhoi cyfle i’ch plant gael chwarae yn yr ardal chwarae awyr agored. Mae The Beaufort Arms hefyd yn aelod o gynllun Brit Stops.

  1. Three Cliffs Coffee Shop

Dewch i fwynhau teisennau cartref blasus (sy’n defnyddio ryseitiau cyfrinachol!), tafliad carreg yn unig o Fae y Tri Chlogwyn. Gyda’r hwyr, ewch i fwyty The Cliff a mwynhewch bryd o fwyd cartref blasus a gaiff ei wneud yn ffres gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau megis cocos a bara lawr Penclawdd.

  1. Kings Head Inn

Mae’r King’s Head yn gweini pysgod mewn cytew a wnaed gyda chwrw Gower Brewery a chigoedd ffres lleol, a’r cyfan mewn tafarn o’r 17eg ganrif yng nghanol penrhyn Gŵyr, ger Rhosili. Mae gan y bwyty ei fragdy ei hun ac ynddo mae un o’r casgliadau mwyaf o wisgi brag y tu allan i’r Alban (mae dros 100 ar gael).

  1. Parc le Breos Restaurant

Dewch i ymlacio ar y teras a mwynhewch bryd o fwyd blasus wrth edmygu’r gerddi hardd ym Mharc Le Breos. Maent yn defnyddio cynnyrch lleol ffres o safon y mae llawer o’r perlysiau, y dail salad, y ffrwythau a’r llysiau wedi’u tyfu yn eu gardd. Mae’r te prynhawn hefyd yn boblogaidd iawn yma ynghyd â danteithion cartref blasus ac Welsh Brew Tea.

  1. Coast Café

Dewch i ddarganfod Coast Café, siop goffi annibynnol a bar gwin yn SA1 sy’n gweini coffi barista o safon, bwyd cartref ffres ac amrywiaeth eang o winoedd a chyrfau. Mae’r ardal eistedd awyr agored fawr yn cynnig golygfeydd o ran o’r marina na chaiff ei gweld fel arfer ac mae’r ardal yn dal i fod yn gartref i longau pysgota sy’n dal i weithio hyd heddiw, sy’n ychwanegu at swyn yr ardal.

 

  1. The Bay Bistro & Coffee House

Dewch i fwynhau brecwast, brecinio neu ginio wrth fwynhau bae arobryn Rhosili. Mae The Bay Bistro yn gweithio gyda ffermydd lleol a chraswyr coffi, ac maent yn defnyddio bwydydd lleol o bob rhan o Gymru, gan gynnwys cig oen morfeydd heli Gŵyr.

Cliciwch yma am ragor o leoedd i fwyta ym Mae Abertawe…