Cymerwch gip ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, ewch i weld un o deg o draethau gorau Prydain (yn ôl defnyddwyr Trip Advisor!), yr amgueddfeydd hynaf a diweddaraf yng Nghymru a man geni Dylan Thomas… Bae Abertawe yw’r unig le y gallwch chi wneud y pethau hyn… ymysg llawer o bethau eraill wrth gwrs!
Gallwch chi wneud y cyfan mewn ychydig o ddiwrnodau – neu arhoswch am gyfnod hwy, a chymerwch eich amser a rhowch dic wrth ymyl pob un wrth i chi eu cyflawni. Ac os oes rhai ar ôl o hyd, dewch nôl i’w gorffen!
Cewch adeiladu castell tywod, mynd i syrffio, caiacio, arfordiro neu eistedd a darllen llyfr. Dydyn ni ddim yn hoffi brolio – rydym yn eich gwahodd i ddod i farnu drosoch chi’ch hun
Dewch i weld ble cafodd awdur a bardd enwocaf Abertawe ei eni (yn yr ystafell wely flaen i fod yn union gywir), a’r lle a oedd wedi chwarae rhan fawr wrth ffurfio arddull a gwaith Dylan Thomas. Mwynhewch daith dywys, pryd gyda’r hwyr neu arhoswch am y noson yn 5, Rhodfa Cwmdoncyn neu ewch i Ganolfan Dylan Thomas ar gyfer arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’.
Maent wrth ymyl ei gilydd. Archwiliwch Amgueddfa Abertawe, a ddisgrifir gan Dylan Thomas fel ‘amgueddfa a ddylai fod mewn amgueddfa’, cymerwch gip ar fywyd yn Abertawe yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol… a dewch i gwrdd â mymi Eifftaidd! Neu, ewch drws nesaf i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer arddangosfeydd rhyngweithiol uwch-dechnoleg sy’n dod â hanes diwydiant ac arloesedd Cymru’n fyw.
Syrffiwch, cerddwch, paentiwch, archwiliwch. Mwynhewch. Golygfeydd hardd a chefn wlad heb ei ddifetha. Rydym eich gwahodd chi i rannu ein cariad at Gŵyr. Cerddwch ar hyd Lwybr Arfordir Gŵyr – 39 milltir o lwybr cerdded ar hyd Arfordir Gŵyr neu rowch gynnig ar Lwybr Gŵyr, sy’n 35 milltir o hyd. Rhennir yn dair rhan felly nid oes rhaid i chi wneud y cyfan mewn un tro!
Mae Goleudy Whiteford, ar Dwyni Whiteford, yn dirnod amlwg yng Ngogledd Gŵyr. Mae’r daith i’r goleudy yn cymryd sbel ac nid yw’n ymddangos fel ei fod agosáu o gwbl! Cofiwch i wirio’r llanw cyn i chi fynd ar eich taith.
Cerddwch y pum milltir ar hyd Bae Abertawe (ar hyd Promenâd Abertawe), sef y llwybr a ddefnyddiodd y trên cyntaf i deithwyr yn y byd, sef trên Abertawe i’r Mwmbwls, ar ei daith gyntaf ym 1807. Yn ddiweddarach newidiodd o gael ei phweru gan geffylau i drên stêm ac yna cafodd ei drawsnewid i dramiau trydanol, cyn cau ym mis Ionawr 1960. Ar adeg cau’r rheilffordd, dyna oedd rheilffordd hwyaf ei wasanaeth yn y byd, ac mae’n dal y record ar gyfer y nifer mwyaf o fathau o dyniannau mewn unrhyw reilffordd yn y byd.
Achubwyd pen blaen car rhif 7 at ddefnydd cadwraeth yn Amgueddfa Abertawe. Adnewyddwyd yn wreiddiol yn y 1970au cynnar, ac mae bellach yn cael ei harddangos yn y Sied Dramiau ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Ardal Forol Abertawe.
Cliciwch yma am fwy o bethau i’w gwneud ym Mae Abertawe.