fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin
BLOG | July 15, 2019

Dewch i Ddarganfod Gwefrau Gwych!

Hoffech chi fwynhau gwefrau gwych yr haf hwn? Dewch i Fae Abertawe i gael awyr iach, milltiroedd o arfordir a’r golygfeydd gorau! Gallwch fod yn actif neu ymlacio. Dyma rai syniadau i’ch helpu i ddechrau…

Cydiwch yn eich bwrdd syrffio ac ewch i’r dŵr

Dim bwrdd syrffio? Dim problem! Cewch gip ar ein gweithredwyr lleol a all eich helpu a dangos i chi sut i’w wneud.

2. Bydd ein cyfeillion pedair coes bob tro’n ein helpu i deimlo’n well

Ewch i Fae Rhosili, lle mae croeso i’ch hoff gi trwy gydol y flwyddyn!

3. Beth yw padlo bwrdd ar eich traed?

Môr tawel, meddwl tawel. Chi a’r dŵr agored yn unig. Tawelwch.

4. Dringwch a neidiwch i’r dŵr

Mae arfordiro mor hawdd â hynny (neu efallai nad yw’n hawdd)! Byddwch yn ddewr, ond cofiwch ddefnyddio gweithredwr lleol i’ch cadw’n ddiogel.

5. ‘You vs Wild’

Byddwch fel Bear Grylls am ddiwrnod a dewiswch eich profiad crefft y goedwig eich hun. Adeiladwch loches, cyneuwch dân a choginiwch eich bwyd eich hun!

6. Dewch o hyd i draeth (mae digon ohonynt ar gael!) a dewiswch eich man perffaith

Darllenwch lyfr neu ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd hardd (mae digon ohonynt ar gael hefyd!). Tynnwch lun a tagiwch ni yn – @BaeAbertawe #HwylBaeAbertawe

Rydym yn mwynhau gwefrau gwych… ydych chi’n eu mwynhau?