Beth ydych yn hoffi ei wneud pan fyddwch ar eich gwyliau? Os rydych am fwynhau awyr iach, yna bydd ein harfordir a’n cefn gwlad yn berffaith i chi.
Gwyliwch ein fideo newydd sbon – yna, cynlluniwch eich taith darganfod eich hun – ni fydd llawer o deithio – ond bydd llawer o fwynhad!
Mae gennym draethau mawr a bach ond maent i gyd yn hardd. Ond nid oes rhaid i chi dderbyn ein gair ni – mae ein casgliad o draethau’n arobryn, gan ennill gwobrau megis baneri glas a gwobrau TripAdvisor. Mae gennym draethau sy’n wych ar gyfer syrffio, fel Llangynydd, a rhai sy’n addas am hwyl i’r teulu, fel Langland hyfryd a’r traeth clyd, Bae Caswell.
Petai’n well gennych symud o gwmpas yn hytrach nag eistedd a mwynhau’r olygfa, yna mae gennym amrywiaeth o lwybrau cerdded gwych ar hyd y penrhyn i chi ddewis ohonynt! Mae arfordir sydd wirioneddol yn anhygoel ym mhenrhyn Gŵyr, ynghyd â llwybr troed ger pen y clogwyn, cildraethau, baeau a thraethau.
Gallwch hefyd fwynhau’n hanes glan môr ar daith i’n dinas; darganfyddwch ein treftadaeth yn ein hamgueddfeydd a’n horielau ac ewch i fwynhau awyrgylch glan môr ein caffis a’n bwytai.
Mae gennym ben-blwydd pwysig eleni – bydd Abertawe’n dathlu 50 mlynedd fel dinas. Mae’n amser gwych i chi ddarganfod y ddinas hon ger y môr!
Gwyliau Gartref Bae Abertawe – Cynlluniwch eich taith:
Neu gadewch i rywun arall yrru ar eich rhan – ewch ar y bws neu ewch ar daith dywys