Penwythnos Cymreig gyda cherddoriaeth, bwyd ac adloniant er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Bae Abertawe.
Dathlwch y gorau sydd gan ddiwylliant bae Abertawe a Chymru i’w gynnig ddydd Gwener 1 Mawrth a dydd Sadwrn 2 Mawrth yn ystod dathliad Croeso yn Sgwâr y Castell, Abertawe.
Rhwng 11am a 4pm bydd arddangosiadau coginio, cerddoriaeth fyw, stondinau bwyd Cymreig a llawer o adloniant ar gael er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Arddangosfeydd ac Arddangosiadau Bwyd
Bydd cogydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef, enillydd Great British Bake Off, a chogyddion blaenllaw o westai lleol i gyd yn arddangos yr hyn maent yn ei wneud orau dros y 2 ddiwrnod.
Bandiau Byw a Cherddorion Stryd
Bydd bandiau Cymreig, telynor, côr a hyd yn oed fflachgriw’n cyfrannu at awyrgylch y dathliadau yn Sgwâr y Castell. Gwyliwch o 11am a mwynhewch y digwyddiadau ymylol a fydd yn parhau gyda’r hwyr.
Peidiwch â cholli dathliadau CROESO. Dewch o hyd i’r holl fanylion YMA