Mae hanner tymor mis Chwefror eisoes wedi cyrraedd ac mae’n hen bryd i chi gael egwyl ar ôl gaeaf hir. Bydd eich anturwyr bach yn ysu i fynd allan a darganfod ar ôl iddynt fod dan do drwy gydol y gaeaf!
Dyma’n 5 syniad gorau am sut i gael antur yn ystod hanner tymor ym Mae Abertawe!
- Ewch ar hyd Llwybr y Smyglwyr: Ewch â’ch llu o fôr-ladron ar daith fer drwy gildraethau a chuddfannau dirgel. Roedd Tŷ Halen Porth Einon, sydd bellach yn adfeilion, yn arfer bod yn bencadlys smyglwyr enwog a chuddiwyd nwyddau gwaharddedig mewn twneli cyfrinachol yn lleoliad hynod Twll Culver.
Mwy o wybodaeth
- Wythnos Môr-ladron: O ddydd Sadwrn 23 Chwefror, bydd yr holl ddarpar môr-ladron yn mynd i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr i ddysgu sgiliau anturus ac efallai bydd ganddynt gyfle i gwrdd â Chapten Jack!
Mwy o wybodaeth
- Hwyl yn y dŵr: Bydd pob môr-leidr yn y dŵr rywbryd – felly gwnewch yn siŵr fod eich un chi wedi’i baratoi! Ewch i’r LC a Phwll Cenedlaethol Cymru i ymarfer nofio a chael hwyl yn y dŵr
Mwy o wybodaeth
- Taith Amgueddfeydd: Ewch ar helfa drysor ar hyd Bae Abertawe; Amgueddfa Abertawe yw’r cyrchfan cyntaf ar gyfer arteffactau euraidd o’r Aifft, ac yna ymlaen i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i archwilio hanes morwrol Cymru.
Mwy o wybodaeth
- Pawb ar y Copper Jack! Gadewch y cefnfor a dewch i hwylio ar afon Tawe mewn cwch cul a dysgu sut enillodd Abertawe’r teitl Copropolis!
Mwy o wybodaeth
Chwilio am rywle i gael hwyl ger y lli? Does dim angen edrych ymhellach.