fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Chwaraewyr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe’n taclo Dydd Llun Diflas â ioga mewn llecyn hardd yng Nghymru


C 22nd January 2019

On Blue Monday (21 January), Swansea City AFC players — Joe Rodon, Connor Roberts, Dan James and Declan John — swapped the pitch for ‘the plank’ as they took part in an outdoor yoga session, overlooking Three Cliffs Bay on the Gower Peninsular.

Part of Wales’ Year of Discovery, the surprise session launches a series of pop-up wellbeing events happening at beauty spots across Wales this coming Saturday (26 January), including four National Trust sites.

Hosted by Visit Wales, the unique events have been arranged to give people a much-needed wellbeing boost by reconnecting them with nature in some of the country’s most idyllic surroundings, while taking them on a journey of discovery through mindfulness and meditation.

From yoga in the surroundings of the Brecon Beacons to mindfulness and meditation overlooking the sands of Broad Haven Beach in Pembrokeshire, the free events are open to the public and can be attended without pre-booking.

Dr Rebecca Crane from Bangor University’s Centre for Mindfulness Research and Practice said: “The Wales-wide wellbeing event is hugely important in reminding us that we are part of the natural world and that if we lose this connection in the rush of everyday life, we risk feeling disconnected. We are blessed in Wales with extraordinary natural beauty on our doorstep —taking time in nature is an easy doorway into mindfulness, which brings benefit to our mental health and overall wellbeing.”

Wales international and Swansea full-back, Connor Roberts, took part in the outdoor yoga session with his team mates. The 23-year-old said: “Spending time outdoors and keeping fit is so important for maintaining a positive mindset, so we were really happy to support this initiative and encourage others to give it a go.”

Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism, Lord Elis-Thomas, added: “During Year of Discovery 2019 we want to encourage people to discover Wales anew, to discover new parts of Wales and to try out enriching outdoor, adventure and cultural experiences across the country.   We’ve had a great start to the year with the Sunday Times Magazine choosing Wales as one of the rising stars of 2019, alongside places such as Morocco and Iceland, Georgia, Portugal, Turkey, Sri Lanka, Costa Rica, Croatia, and South Africa.

“Wales is full of hidden corners; as well as world-class attractions. And so the challenge is set to visit places you have never been before; or to try something for the very first time.”

Visitors to the wellbeing sessions are advised to bring a mat or blanket and dress appropriately for cold and wet weather conditions. Visitors are advised to check parking charges at nearby car parks. A full list of events can be found below.

Wales Wellbeing Pop-Ups — Saturday, 26 January 2019

  1. Beddgelert

    Beddgelert, Snowdonia National Park

    Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri — 8.30-9.30yb

Codwch cyn cŵn Caer i sesiwn ioga a myfyrdod ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Gallwch ddianc i bentref pert a hanesyddol Beddgelert, ble cynhelir sesiwn awyr agored awr o hyd gyferbyn ag Eglwys y Santes Fair, wrth ochr yr afon, gyda golygfeydd panoramig o fynyddoedd ysgubol Eryri. Croeso i bob gallu ac oedran ymuno!

Sut i fynd yno: Cynghorir ymwelwyr i barcio ym maes parcio’r pentref cyn cerdded heibio i siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i lawr y lôn wrth ochr yr afon. Yn fuan wedyn, fe welwch chi bont droed a chlwyd yn arwain at Eglwys y Santes Fair – sef dechrau’r llwybr i fedd Gelert yn ogystal. Gweler y map llawn isod.

  1. Y Begwns, ger y Gelli Gandryll — 10-11yb
Begwns

The Begwns, near Hay-on-Wye

Mwynhewch olygfeydd panoramig dros Fannau Brycheiniog a fydd yn dwyn eich gwynt ar hyd Llwybr y Begwns, yn enwedig o’r Cylchfan, pwynt uchaf y comin. Cymerwch eich amser i ymlacio ac adfywio drwy dreulio amser ynghanol byd natur mewn sesiwn myfyrdod ac ioga awyr agored, dan arweiniad Graham Nolan o River Flow Yoga. Cynghorir ymwelwyr yn gryf i ddod â mat / blanced a dillad cynnes ar gyfer y sesiwn.

Sut i fynd yno: Rhwng Llanfair-ym-muallt a’r Gelli Gandryll (â’r cod post agosaf yn LD2 3JN), cyfeirnod grid y maes parcio yw: SO162443. Dechreuwch o’r maes parcio ar y llain werdd, ac mae’r Cylchfan ar ben y bryn, wedi’i amgylchynu gan wal gerrig â choed yn tyfu oddi mewn iddi. Bydd y sesiwn yn digwydd tu allan i wal y Gylchfan, ac ychydig i’r de.

  1. Broadhaven South, Sir Benfro — 11yb-12yh

Ymlaciwch, gadewch i bopeth fynd a dechreuwch eich penwythnos yn y modd gorau posib gyda sesiwn o ymestyn ddiwedd bore wrth i chi edrych allan dros un o draethau mwyaf delfrydol Sir Benfro, Broadhaven South.

Broad Haven South

Broad Haven South, Pembs

Sut i fynd yno: Os ydych chi’n dod mewn car, gall ymwelwyr barcio yn y prif faes parcio (y cod post agosaf yw SA71 5DR) — dafliad carreg yn unig o ben y clogwyn, ble cynhelir y sesiwn. Bydd y sesiwn yn para awr, ac argymhellir yn gryf fod ymwelwyr yn dod â mat / blanced gyda nhw, ac yn gwisgo dillad cynnes.

  1. Lawnt Fawr Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg — 10.30-11.30yb

Mwynhewch olygfeydd dros 55 erw o erddi Edwardaidd, sy’n cynnwys ystafelloedd gardd clyd, lawntiau ffurfiol ac arboretwm helaeth. Bydd y sesiwn yn agored i bob gallu ac oedran, ond argymhellir yn gryf fod ymwelwyr yn dod â mat / blanced gyda nhw er mwyn cymryd rhan.

 

Dyffryn Gardens

Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Sut i fynd yno: Anelwch am Dderbynfa Ymwelwyr Gerddi Dyffryn a bydd y tîm croesawu’n eich arwain at y Lawnt Fawr ar gyfer y sesiwn awr o hyd. Rhwng pentrefi Sain Nicolas a’r Dyffryn, ceir arwyddion ffyrdd brown i’ch cyfeirio o’r Barri ac o Groes Cwrlwys. Pan fyddwch wedi cyrraedd Lôn Dyffryn, cewch y fynedfa ar y dde os ydych chi’n dod o’r A48, ac ar y chwith os ydych chi’n dod o Ffordd St Lythans.

Y cyfeiriad llawn yw Gerddi Dyffryn, Sain Nicolas, Bro Morgannwg CF5 6SU.

 

  1. Traeth Oxwich (o flaen Bwyty Beach House), Ystâd Castell Penrice, Penrhyn Gŵyr, Abertawe  — 10-11yb

Crwydrwch i lawr i’r traeth sydd wedi ennill gwobrau ym Mae Oxwich, teimlwch y tywod rhwng bodiau eich traed a mwynhewch awel iach y môr wrth i chi ymuno mewn sesiwn ioga awyr agored gydag Ana Chidzoy o Hotpod Yoga South West Wales. Ynghyd â rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf syfrdanol Cymru, bydd y sesiwn awr o hyd yn addas ar gyfer pob gallu ac oedran. Argymhellir yn gryf fod ymwelwyr yn lapio’n gynnes ar gyfer y digwyddiad.

Oxwich Beach

Oxwich Beach

Sut i fynd yno: Os ydych chi’n dod mewn car, gall ymwelwyr barcio yn y prif faes parcio wrth ochr Bwyty Beach House ar draeth Oxwich, Gŵyr, Abertawe, SA3 1LS. Nodwch os gwelwch yn dda, bydd angen talu tâl bychan am barcio (arian parod yn unig). I ymuno â’r sesiwn lesiant ‘pop-up’, ewch i’r darn o draeth sydd o flaen y bwyty. 

2019 yw Blwyddyn Darganfod Cymru – gan annog ymwelwyr a phobl leol i ddarganfod Cymru o’r newydd, archwilio’r cilfachau cudd, a rhoi cynnig ar brofiadau awyr-agored, antur a diwylliant cyfoethog ledled y wlad. I gael rhagor o wybodaeth chwiliwch am croesocymru.com.