Oeddech chi’n credu bod yn rhaid i chi gynilio’r ceiniogau hynny, teithio ar awyren a mynd dramor ar gyfer blwyddyn allan? Meddyliwch eto! Os ydych yn ystyried cymryd seibiant gyrfa byr neu am ddianc i rywle newydd a newid golygfa, ewch i Fae Abertawe. Mae llawer o brofiadau cyffrous a bywiogol i’w cael yma – maent yn rhad a gallwch adael eich pasbort gartref!
Rydym wedi llunio rhestr o’r profiadau a’r gweithgareddau gorau ar gyfer eich cyfnod o brofiadau blwyddyn allan y gallwch roi cynnig arnynt yma yn Abertawe… rhowch dic wrth ymyl pob un wrth i chi eu cyflawni. Cofiwch ychwanegu’ch rhai eich hun a dweud wrthym beth wnaethoch chi – @baeabertawe #HwylBaeAbertawe #FyNghyfnodAllan #DwluAryDU
- Efallai bod ‘I’m a Celebrity..Get me out of here’ yn atgof pell erbyn hyn ond dyma’ch cyfle i roi cynnig ar chwilio am fwyd, cynnau tân ac adeiladu lloches gyda Dryad Bushcraft – ni fydd unrhyw ‘Bushtucker Trials’ ond ni allwn warantu na fydd trychfilod o gwmpas y lle!
- Does dim angen Traeth Bondi pan fo Bae Abertawe ar gael! Gwisgwch eich dillad nofio, cydiwch yn eich bwrdd a’ch rhwyf ac ewch ar y môr gyda Gower Stand up Paddle – mae’r dŵr ychydig yn oerach yma, ond mae’r golygfeydd yr un mor hardd!
- Byddwch fel Tarzan am ddiwrnod! Ewch i Go Ape Margam am wifrau sip, siglenni Tarzan ac ysgolion rhaff.
- Ewch ar antur eco gyda Down to Earth. Dringwch goeden, cerfiwch eich ffon gerdded eich hun a phobwch eich pizza eich hun mewn ffwrn ddaear tân coed.
- Oes awydd arfordiro arnoch ar draeth arobryn? Bydd Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr yn mynd â chi i’r creigiau ym Mae Rhosili (a bleidleisiwyd fel Traeth Gorau Cymru yn 2018 a’r 3ydd traeth gorau yn y DU yng ngwobrau Travellers’ Choice TripAdvisor) lle gallwch roi naid enfawr i mewn i’r dŵr oddi tanoch.
- Dysgwch sut i fygi-farcuta neu dirfyrddio â barcut ar hyd 5 milltir eang Bae Abertawe gyda Gower Kite Riders. Nid yw’r traffig yn rhy wael yn yr ardal hon felly bydd digon o le gennych!
- Antur ar Thunder Cat! Os ydych chi’n dwlu ar gyflymder a chyffro a does dim gwahaniaeth gennych wlychu, gadewch i Oxwich Watersports fynd â chi ar antur arfordirol na fyddwch yn ei hanghofio!
- Rhaid i syrffio fod ar y rhestr wrth gwrs! Ac ym mae arobryn Rhosili hefyd – cysylltwch ag Ysgol Syrffio Ffederasiwn Syrffio Cymru am fanylion.
- Dringo clogwyni! Ewch i fae arobryn y Tri Chlogwyn i gael diwrnod yn llawn adrenalin gyda Gower Adventures. Gwarentir golygfeydd gwych!
- Does dim angen edrych ymhellach am gyfleoedd i weld bywyd gwyllt. Ewch ar long y Sea Serpent i gwrdd â morloi, dolffiniaid a llamhidyddion a dysgwch am ein hogofâu esgyrn cynhanesyddol a’n straeon am smyglwyr gyda Gower Coast Adventures.
Mae llawer mwy o weithgareddau cyffrous i roi cynnig arnynt ym Mae Abertawe. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfnod allan yn un i’w gofio ac ewch i www.croesobaeabertawe.com/listings/activities/ am fwy o syniadau!