fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Y 5 Taith Gerdded Orau ar Ŵyl San Steffan


C 20th December 2018

Diwrnod o fwyta a dathlu i’r teulu yw Dydd Nadolig – fel y dylai hi fod – ond erbyn dydd Gŵyl San Steffan byddwch yn barod am ychydig o awyr iach ac ymarfer corff!

Felly dyma 5 o’n ffefrynnau ar gyfer Gŵyl San Steffan – dim byd rhy heriol – wedi’r cwbl, rydych chi ar eich gwyliau! Felly paciwch frechdanau twrci ac anelwch am y bryniau (neu’r arfordir) am dro tymhorol iachusol!

Taith Gerdded 1: Ar hyd Twyni Rhosili

Anelwch am dwyni Rhosili am olygfeydd godidog o Fae Rhosili i Ben Pyrod a Burry Holms. Pan fyddwch chi wedi cyrraedd Llangynydd, cerddwch yn ôl i Rosili ar hyd traeth eang Rhosili – ond gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o egni i ddringo’r grisiau nôl i fyny at bentref Rhosili!

Tua phum milltir a dwy awr a hanner o hyd gyda dau lethr cymharol serth.

Taith Gerdded 2: Cerdded yn y Coed

Penllaegare Woods

Mae gan Goed Cwm Penllergaer harddwch gwahanol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, lle mae canghennau moel y coetir hynafol hwn wedi’u hamlinellu rhyngom a’r awyr. Dilynwch un o’r llwybrau troed i ddarganfod sut mae Ymddiriedaeth Penllergaer wedi adennill y dirwedd hanesyddol hon gan weithio gyda natur i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael boddhad ohoni.
Mae hyd y teithiau cerdded yn amrywio yn ôl y llwybr a ddilynir.

Mae hyd y teithiau cerdded yn amrywio yn ôl y llwybr a ddilynir.

Taith Gerdded 3: Crwydro ar hyd Bae Abertawe

Swansea Bay

Dechreuwch wrth Neuadd y Ddinas a’i art deco a pharhau ar hyd y promenâd a heibio cofeb Jac Abertawe a Pharc y Clun, ar hyd bae ysblennydd Abertawe nes i chi gyrraedd y Mwmbwls.
Tua chwe milltir a dwy awr o gylchdaith, llwybr hygyrch, gwastad iawn.

Tua chwe milltir a dwy awr o gylchdaith, llwybr hygyrch, gwastad iawn.

Taith Gerdded 4: Llwybr yr Arfordir i Fae Caswell

Caswell

Os nad oes gennych lawer o amser, ond rydych am gael chwa o awyr iach y môr yna ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr rhwng bae hardd Langland a’i gymydog gwefreiddiol, Bae Caswell. At ei gilydd, mae’r llwybr yn wastad gydag ambell lethr cymedrol yn unig.

Tua thair milltir ac ychydig dros awr o gylchdaith.

Taith Gerdded 5: Y Gogledd Hudol

Whitford Point

Rydych yn siŵr o syrthio mewn cariad â rhan newydd o Benrhyn Gŵyr. Gan ddechrau yng Nghwm Iorwg yng ngogledd Gŵyr a cherdded tuag at draeth Whiteford, wrth ymyl coed Whiteford, cerddwch ar hyd y traeth tuag at Drwyn Whiteford ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr. Cerddwch yn ôl ar hyd yr un ffordd neu dilynwch lwybr cylchol ar hyd Llwybr yr Arfordir i’r tir, y tu ôl i’r twyni. Cylchdaith tua phum milltir a dwy awr o hanner o hyd dros dir sy’n anwastad o bryd i’w gilydd.

Mwy o Wybodaeth:

Mae teithiau cerdded 1, 3, 4 a 5 i’w gweld yn Arweiniad Llwybr Arfordir Gŵyr

Taith Gerdded 2: Penllergare Valley Woods

Wrth gwrs, does dim rhaid i chi ddilyn llwybr cyfan unrhyw un o’r teithiau – ewch mor bell ag yr hoffech yn yr amser sydd gennych – byddwch chi’n siŵr o gael awyr iach, tirwedd hardd a byddwch yn teimlo’n dda amdanoch chi’ch hun!