fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Gŵyl Gerdded Gŵyr – Prynhawn Perffaith!


C 6th June 2018

Yn dychwelyd ar ôl seibiant byr, mae Gŵyl Gerdded Gŵyr cystal ag erioed. Gyda rhaglen o bron 40 o deithiau cerdded sy’n cwmpasu hyd a lled tirwedd nodedig ac amrywiol Gŵyr, mae’r hen ystrydeb yn wir – mae rhywbeth at ddant pawb. I’r rhai sy’n dwlu ar natur, hanes neu antur, neu bobl sydd am dreulio diwrnod difyr a chymdeithasol yn yr awyr agored, rydym yn addo y byddwch yn dod o hyd i daith gerdded y byddwch yn ei mwynhau. Yn wir, byddwch yn debygol o ddod o hyd i nifer!

Roeddem yn ddigon ffodus i gael gwahoddiad i daith gerdded Penmaen a Chastell Pennard ddydd Llun, sy’n llwybr hyfryd 4 milltir o hyd llawn hanes, awyr iach y môr a golygfeydd anhygoel dros Fae’r Tri Chlogwyn.
 
Gower Walking Festival
 
Er bod holl lwybrau cerdded bendigedig Gŵyr yn agored i bawb, atyniad Gŵyl Gerdded Gŵyr yw’r ffeithiau a’r awgrymiadau diddorol a difyr rydych yn eu derbyn ar y ffordd. A fyddem wedi sylwi ar olion cerrig anheddiad canoloesol a gladdwyd o dan y tywod heb ein tywysydd? (Wnaethon ni ddim!).

Yn wir, a fyddem wedi gwybod ein bod wedi cyrraedd safle Castell Penmaen? O’i gymharu ag adfeilion cerrig gweladwy Castell Pennard, mae safle Castell Penmaen yn llai amlwg, ond yr un mor ddiddorol yw ei hanes (ac nid yw cefndir Bae’r Tri Chlogwyn yn llai syfrdanol!). Gyda darluniadau yn dangos i ni sut byddai’r castell wedi edrych ar ei anterth, clywsom am yr holl waith cloddio a ddatgelodd fod y safle’n amddiffynfa gylch Normanaidd nodweddiadol o’r 12fed ganrif.
 
Gower Walking Festival
 
Ar ôl oedi i dynnu ffotograffau a mwynhau’r olygfa – a dyna beth yw golygfa! – aethom i lawr i’r tywod am hoe fach cyn mynd i’r afael â’r cerrig sarn.
 
Gower Walking Festival
 
Gyda chlogwyni, blodau gwyllt hardd ac ambell fuwch chwilfrydig o’n cwmpas, a’r môr y tu ôl i ni, dyma un o’n hoff rannau ar y daith.
 
Gower Walking Festival
 
Er gwaethaf y ddringfa derfynol i fyny i Gastell Pennard (nid yw mor anodd â hynny!), cawsom ein hannog gan yr addewid o olygfa anhygoel arall ar y copa, a chyn bo hir roeddem o flaen Castell Pennard lle na chawsom ein siomi.
 
Gower Walking Festival
 
Sut byddem yn crynhoi ein prynhawn? Tair awr werth chweil! Os ydych am archwilio ein hardal leol gyfareddol, gallwn ganmol Gŵyl Gerdded Gŵyr i’r cymylau – ond bydd angen i chi frysio gan y bydd yn dod i ben ddydd Sul). Er ei fod yn hwyl mynd allan ac archwilio ar eich pen eich hun weithiau, beth sy’n well na chwmni pobl o’r un bryd, tywysydd arbenigol a chyfle i ddysgu mwy am yr hyn sydd ar garreg ein drws? Dyma’r ffordd orau o dreulio dydd Llun!
 
Gwyliwch y fideo >>