fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae’r Piano ar Dân! A’r Holl Jazz ʼna …


C 24th May 2018

Does dim ots os ydych yn gyfarwydd â thonau pobl fel Derek Nash a Judith Nijland, neu os nad ydych yn gwybod y gwahaniaeth rhwng avant garde a neo-bop! Fis Mehefin hwn, bydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n dod â holl gyfoeth jazz i Ardal Forol Abertawe.

Yn dychwelyd am y 5ed flwyddyn yn olynol, bydd gŵyl jazz flynyddol fwyaf Cymru’n cynnig rhythmau gwych yr haf hwn. Meddai cyfarwyddwr creadigol yr ŵyl, Dave Cottle, sydd hefyd yn perfformio bob nos Fercher yn Jazzland Abertawe, “Rydym wedi llunio rhaglen gref ac amrywiol ar gyfer 2018.”

O 14 i 17 Mehefin, bydd y ddinas yn cynnal dros 50 o ddigwyddiadau yn yr Ardal Forol ac o’i hamgylch, mewn 16 lleoliad gan gynnwys Canolfan Dylan Thomas a Theatr Dylan Thomas.

Mae rhaglen y gyngerdd â thocynnau’n cynnwys gitarydd bas byd-enwog o Abertawe, Laurence Cottle, gyda’i Fand Mawr yn llawn sêr yn cyflwyno – Soul Vaccination: Celebrating 50 years of Soul & Funk. Mae’r band yn cynnwys cerddorion sesiwn a jazz gorau’r DU ac maent newydd berfformio’r gyngerdd i dŷ llawn yn Ronnie Scotts Club yn Llundain. Arweinydd band mawr adnabyddus yn y DU yw Pete Long, y bydd ei fand yn ail-greu cerddoriaeth Band Mawr Benny Goodman yn fyw yn Neuadd Carnegie. Bydd prif gantorion jazz y DU, Tina May a Lee Gibson, hefyd yn cyflwyno’r sioe Sophisticated Ladies a fydd yn cynnwys cerddoriaeth yr holl gantorion jazz benywaidd gorau, gyda’r trympedwr gwadd, Bruce Adams.

Ond nid sêr jazz y DU yn unig fydd yn dod i Abertawe’r haf hwn – yn hedfan o America bydd band 12 offeryn Louis Prima Jr. and the Witnesses, a fydd yn ail-greu cerddoriaeth wych ei dad a chyfnod Jump Jive. Bydd y gitarydd penigamp Daniel Marques a’i driawd hefyd yn hedfan o’r cyfandir, y tro hwn o Rio de Janeiro, i gyflwyno cyfansoddiadau a threfniannau Daniel yn seiliedig ar repertoire ei albymau a’r clasuron o Frasil.

Byddwn hefyd yn croesawu’r trympedwr, Jim Rotondi a’i Italian Quartet; bu Jim yn berson blaenllaw yn y byd jazz am dros 30 o flynyddoedd, yn Efrog Newydd ac yn rhyngwladol. Bu galw am ei sain, ei enaid a’i ymdeimlad o swing fel arweinydd a cherddor cynorthwyol dros y byd i gyd.

Bydd sacsoffonydd enwog a chyn aelod o fand James Brown yn cau Gŵyl 2018 sef Pee Wee Ellis a’i Fand Funk Assembly a fydd yn cynnwys Dennis Rollins (trombôn) a Lizzie Deane (llais).

 

 
Yn ogystal â’r perfformiadau â thocynnau, bydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe hefyd yn cyflwyno llu o weithdai, digwyddiadau ymylol a sesiynau jam drwy gydol y penwythnos. Felly os ydych yn arbenigwr ar y fibraffon neu os nad ydych byth wedi canu’r fiola, ceir gweithdai ar gyfer pob gallu a dewis. A pheidiwch ag anghofio’r sesiynau jam am ddim hefyd – gwrandewch ar y prif artistiaid yn chwarae gyda sêr jazz lleol, neu beth am gymryd rhan a chwarae gyda’r gorau!

Fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Abertawe. Ac am y pumed flwyddyn yn olynol, noddir yr ŵyl gan Prescott Jones Insurance Solutions o Abertawe.

Meddai Rheolwr-gyfarwyddwr Prescott Jones Insurance Solutions, Ed Prescott, “Rydym yn falch o barhau i gefnogi digwyddiad yr ydym yn credu sy’n ychwanegu llawer at ddiwylliant Abertawe”.

Ychwanegodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae Dave Cottle a’i dîm yn gwneud gwaith gwych ar ran Abertawe. Mae’r ŵyl yn denu ymwelwyr o bob man, felly mae’n hwb enfawr i dwristiaeth ac mae wedi gwella enw da Abertawe fel canolfan ar gyfer gwyliau.”

Prynu tocynnau yma

Llawrlwytho rhaglen lawn yr ŵyl

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan swyddogol Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, jazzwales.com.