fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Pum Digwyddiad Byw


C 6th March 2018

 
Eleni, cynigir llu o ddigwyddiadau byw. Cerddoriaeth fyw, comedi fyw, styntiau byw a dramâu byw – rydym wedi meddwl am bopeth! Mae cynifer o bethau i ddewis ohonynt, ond rydym wedi creu rhestr o’r pum digwyddiad na ellir eu colli i roi rhagflas i chi o’r hyn sydd i’w ddisgwyl. Y peth gorau? Maen nhw i gyd yn cael eu cynnal yng nghanol ein dinas, ac mae pob lleoliad ar garreg drws glannau hyfryd Bae Abertawe (a rhai yn y bae ei hun), felly beth am drefnu i aros dros nos a gwneud penwythnos ohoni? Ac, wrth gwrs, bydd popeth yn fyw?!

 

1. Y Penwythnos Mwyaf (BBC Radio 1)

 
Five Live

Mae y Penwythnos Mwyaf gan Radio One yn dod i Barc Singleton ar 26 a 27 Mai a’r prif berfformwyr fydd y cantorion gwych, Ed Sheeran a Taylor Swift. Ceir perfformiadau gan Niall Horan, Years and Years, Jess Glynne, Craig David, James Bay, Wolf Alice, J Hus a mwy. Ni allwn aros!

 


 

2. Now the Hero

 
Five Live

MaeNow the Hero yn berfformiad mawr, epig ar safle penodol sy’n plethu straeon am wrthdaro drwy ymosodiad milwrol, parti priodas aflafar, dawns brotest a gwylnos hynafol. Bydd y profiad theatrig hwn yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith ryfeddol drwy dri naratif rhyfel; o draeth hardd Bae Abertawe i ddarganfod trysorau artistig yn Neuadd Brangwyn eiconig y ddinas.

 


 

3. Comedy Central

 
Five Live

Anghofiwch am yr Hammersmith Apollo – bydd Sarah Millican (31 Mai), Russell Brand (10 Gorffennaf), Jason Manford (13 – 14 Gorffennaf), Joe Lycett (17 Gorffennaf), Ross Noble (18 Medi) a Dara O’Briain (15 Hydref) yn troedio llwyfan Theatr y Grand Abertawe yn 2018.
 

 


 

4. Sioe Awyr Cymru

 
Five Live

Arddangosiadau erobateg gwefreiddiol ac awyrennau hen a chyfoes – mae Sioe Awyr Cymru yn un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd (oes hawl gennym i gael ffefryn?) ac mae’n dychwelyd i Fae Abertawe rhwng 30 Mehefin a 1 Gorffennaf. Cadwch lygad am y rhestr anhygoel!

 


 

5. Man Engine Cymru

 
Five Live

Rydym mor gyffrous i groesawu The Man Engine i Fae Abertawe. Dewch i’w weld yn casglu mwyn copr o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cyn cerdded drwy ganol y ddinas i Waith Copr yr Hafod-Morfa, lle ceir sioe llawn tân a goleuadau gyda’r hwyr. Mae’n rhaid ei weld er mwyn ei gredu!