O Sant, Caneuon a Dathlu i fwyd a diod cartref, lleol, blasus. Dewch i fwynhau dathliad o’r gorau sydd gan Fae Abertawe a diwylliant Cymru o ddydd Iau 1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi) i ddydd Sadwrn 3 Mawrth yn ein dathliad Croeso cyntaf erioed. Ydych chi erioed wedi gweld cenhinen bedr ar stiltiau? Peidiwch â cholli’r orymdaith anhygoel yng nghanol y ddinas!
Fe’i disgrifiwyd fel ‘Prif fodel traethau Prydain’ gan yr Independent, ac mae cwpwrdd gwobrau Rhosili bron yn orlawn! Mae’n cwmpasu tair milltir o lan tywodlyd euraid, gydag un o dirnodau enwocaf penrhyn Gŵyr, Pen Pyrod, ar un ochr iddo, ac mae’r golygfeydd oddi yma heb eu hail. Mae’n berffaith ar gyfer chwaraeon dŵr (yn enwedig syrffio), teuluoedd, picnics (fe’i pleidleisiwyd yn un o’r mannau picnic gorau yn y DU) a chŵn (fe’i henwebwyd fel y traeth gorau yn y DU sy’n caniatáu cŵn gan The Times), mae’n lle perffaith sy’n addas i bawb!
Mae Bae y Tri Chlogwyn yn cynnig profiad mwy gwyllt i’r sawl sy’n fwy anturus, gyda thraethlin drawiadol o dywod, twyni tywod, morfeydd heli a chlogwyni calchfaen. Mae Bae y Tri Chlogwyn, rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr y mae’n werth tynnu lluniau ohoni, hefyd yn lle delfrydol i eistedd a chael tamaid wrth edmygu’r golygfeydd, a dyma’r rheswm y cafodd ei bleidleisio’n fan picnic gorau’r DU yn 2017 gan yr ap adloniant, Disneylife.