Rydym mor gyffrous i gyhoeddi bod Y Penwythnos Mwyaf gan BBC Music yn dod i Barc Singleton yn Abertawe ddydd Sadwrn 26 Mai a dydd Sul 27 Mai!
Gyda pherfformiadau gan sêr mwyaf poblogaidd y byd cerddoriaeth mewn cyngherddau a gynhelir gan BBC Radio 1, 1Xtra a’r Asian Network, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC 6 Music, mae disgwyl iddo fod yn ddathliad o gerddoriaeth mwyaf y BBC ar y teledu, y radio, ar-lein ac ar ffonau symudol. Ac mae hyn i gyd yn digwydd yn Abertawe!!
Ed Sheeran and Taylor Swift!
Jess Glynne | Craig David |
Niall Horan | Years and Years |
James Bay | Wolf Alice and J Hus!! |
Sam Smith
|
Sigrid
|
Mabel | George Ezra |
Camila Cabello | Liam Payne |
Stefflon Don | 30 Seconds To Mars |
Bydd tocynnau ar werth ddydd Llun 12 Chwefror am £18 gyda ffi archebu o £4.50. I gael mwy o wybodaeth, ewch i
Cynhelir Y Penwythnos Mwyaf gan y BBC Music ym Mharc Singleton, Abertawe. Mae Parc Singleton tua 1.5 milltir y tu allan i ganol dinas Abertawe. Cynlluniwch ymlaen llaw a threfnwch eich amserau cyrraedd a gadael cyn y diwrnod!
Parc Singleton
Danteithion i lysfwytawyr, siopau coffi cysurus, tai bwyta blasus, caffis gwych a’r mannau yfed gorau. Dyma ein lleoedd bwyta ac yfed poblogaidd ym Mae Abertawe!
Meddai Nick Grimshaw, cyflwynydd rhaglen frecwast BBC Radio 1, “Rydych chi’n gwybod bod yr haf wedi dechrau pan fyddwn yn cynnal yr ŵyl enfawr hon, ac rydym yn dod â dau o artistiaid mwyaf y byd i Abertawe. Mae Taylor ac Ed, yn ogystal â rhestr hir o berfformwyr sydd i’w cyhoeddi, yn golygu mai Y Penwythnos Mwyaf fydd digwyddiad gorau’r flwyddyn.”
Rydym yn edrych ymlaen!!!!