fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Pencampwyr y Penwythnos


C 14th September 2017

Yn anffodus, mae gwyliau’r haf ar ben am flwyddyn arall, ond nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid i’r hwyl orffen – mae’n rhaid gwneud y mwyaf o benwythnosau, dyna’i gyd! Rydym wedi llunio rhestr o syniadau i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar eich amser hamdden gwerthfawr gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Ydy’ch teulu chi’n barod am antur ganoloesol neu a yw’n well gennych benwythnos cyffyrddus llawn bwydydd y byd? Gallwch wneud y pethau hyn a mwy – dewiswch a chyfunwch eich ffefrynnau o’n hawgrymiadau isod a lluniwch eich Cynllun Pencampwr y Penwythnos er mwyn cael y penwythnos gorau erioed!

Byw Chwedlau

  • Datgelwch eich rhyfelwr mewnol yn Perriswood. Cewch gyfle i gwrdd ag adar ysglyfaethus bendigedig ac ymarfer bwrw’r targed drwy roi cynnig ar saethyddiaeth.
  • Fferm Clun – datblygwch eich sgiliau marchogaeth yn Fferm y Clun a rhowch gynnig ar y cwrs ymosod. Yn ôl y sôn, dyma’r cwrs mwyaf mwdlyd erioed!
  • Dihangwch ‘r 21ain ganrif am brynhawn ac ewch yn ôl mewn amser i archwilio un o’n cestyll canoloesol – Castell Ystumllwynarth, Castell Weble a Chastell Oxwich.
  • Bydd y plantos yn ar y sesiwn gydganu Beauty and the Beast yn Theatr y Grand, Abertawe.
  • Gweithiwch fel tîm a byddwch yn barod am frwydr wrth gael hwyl gydag ychydig o bledu paent yn Teamforce.
  • Go Ape – mae angen i dywysogesau allu dringo allan o dyrau a dianc oddi wrth ddreigiau ac mae angen i farchogion aros yn effro ar faes y gad. Bydd y rhaffau, yr ysgolion a’r gwifrau sip yn sicrhau y byddwch yn barod am bopeth!

 

Byddwch yn un o Arglwyddi’r Gororau (am y penwythnos, ta beth!)

Gadawodd Arglwyddi Normanaidd Penrhyn Gŵyr eu holion ar y gymdogaeth gyda’u cestyll a’u harferion. Er nad oeddent yn boblogaidd iawn amser maith yn ôl, heddiw mae eu cestyll yn lleoedd gwych i ymweld â nhw wrth i chi gerdded ar draws cefn gwlad bendigedig Penrhyn Gŵyr (gallwch ddarllen am ein lleoedd chwedlonol yma).


Dinas Diwylliant 2021 (gobeithio!)

Wrth i gais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 fynd rhagddo o ddifri, nid oes amser gwell i ymweld â’r ardal. O’r amrywiaeth ddifyr o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’n lleoliadau a’n hatyniadau eiconig, dyma Abertawe Ddiwylliannol. Dyma rai awgrymiadau:


Hwyl gyda bwyd – mae angen bwydo pob byddin (a theulu!)

Tapas ger y glannau, pysgodyn y dydd yn ffres o’r cwch yn y Mwmbwls, te prynhawn yng ngogoniant Penrhyn Gŵyr – nid oes llawer o leoliadau sy’n gallu cynnig detholiad mor amrywiol o fwyd a diod na Bae Abertawe. Dyma rai o’n ffefrynnau i gyd-fynd â’n gweithgareddau Pencampwyr y Penwythnos.


Cast ynteu Ceiniog

Dewch â’ch coes ysgub, paentiwch eich wyneb a rhowch eich dannedd fampir i mewn ar gyfer hwyl fwganllyd un o’n digwyddiadau Calan Gaeaf gwych.

  • Cofrestrwch yn Ysgol yr Ysbrydion fel rhan o wythnos hwyl hanner tymor Canolfan Treftadaeth Gŵyr ar thema Calan Gaeaf.
  • Treuliwch nos Galan Gaeaf yn un o fannau mwyaf bwganllyd Penrhyn Gŵyr gyda disgo a dawnsio dychrynllyd, cystadlaethau gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, dowcio am afalau a llawer mwy!
  • Pawb ar y Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf o Erddi Southend
  • Byddwch yn barod am fraw yn Noson Bwci Bo Plantasia
  • Bydd Abertawe yn llawn digwyddiadau goruwchnaturiol yn ystod wythnos Ysbrydion yn y Ddinas