fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Archwiliwch Fae Abertawe'r Hydref Hwn: Ein 5 Llwybr Cerdded Gorau


C 15th September 2015

 

Ddim yn rhy boeth, ddim yn rhy oer, gydag awyr dramatig ag arlliwiau bywiog, twym a browngoch. Mae’n rhaid bod yr hydref yn un o adegau gorau’r flwyddyn i fwynhau natur ar ei gorau yn yr awyr agored – a chewch chi drafferth dod o hyd i olygfeydd mwy amrywiol ac aruthrol nag ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Gyda thros 400 milltir o hawliau tramwy cyhoeddus, mae gennym ddigon o lwybrau cerdded ar gyfer pob gallu, oed a diddordeb. O bentrefi swynol a thirnodau hynafol i filltiroedd o gefn wlad heb ei ddifetha, rhaeadrau ac arfordir trawiadol, byddwch yn barod am anturiaeth newydd ac ysblennydd bob tro.

Ond ble i ddechrau? I’ch helpu ar eich ffordd a chynllunio’ch gwyliau cerdded, rydyn ni wedi dewis pum taith gerdded sy’n dangos y gorau oll y gall Bae Abertawe ei gynnig.

 

Swansea-walking routes

 

Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar y ffotograff uchod am ychydig o help ar yr un yma, gan ei bod hi’n hynod anodd cyfleu godidowgrwydd pur y llwybr hwn mewn geiriau. Gyda golygfeydd trawiadol o ben y clogwyn, mae Rhosili i Fae Mewslade yn ffefryn cadarn ymhlith ymwelwyr â Bae Abertawe a Gŵyr. Wedi’i enwi’n un o 10 Llwybr Cerdded Arfordirol Gorau’r Gymdeithas Gerddwyr, archwiliwch y gorau oll ym mhenrhyn dramatig Gŵyr, a gweld y golygfeydd trawiadol o Fae Rhosili sy’n enwog ar draws y wlad a’r byd (wedi’i bleidleisio’n Draeth Gorau Prydain a’r 9fed gorau yn y byd!). Mae’n wir yn olygfa na ddylid ei cholli.

 

Mwy O Wybodaeth

Canllaw Lawrlwytho

 


 

Swansea-walking routes

 

Taith gerdded bert sy’n llawn fflora, ffawna, a thirnodau hanesyddol, mae llwybr Llanmadog yn mynd heibio i’r hen Reithordy cyn parhau trwy Goed Whiteford. Mae uchafbwyntiau penodol yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Whiteford (brithwaith o gynefinoedd pwysig sy’n cefnogi llawer o blanhigion prin), Eglwys Llanmadog (yn dyddio o’r 13eg ganrif), a golygfeydd godidog dros Foryd Llwchwr. Ar ôl gweld cynifer o olygfeydd, bydd angen ychydig o luniaeth arnoch chi, felly beth am gael diod a byrbryd yn Llanmadog? Fel llwybr ‘Mynd i Gerdded ar y Bws’, mae gan y daith gysylltiadau â llwybrau bws lleol – perffaith os ydych chi eisiau gadael y car gartref.

 

Mwy O Wybodaeth

Canllaw Lawrlwytho

 


 

Swansea-walking routes

 

Yn agos at bentref swynol y Mwmbwls, mae’r daith gerdded hon yn dilyn arfordir Gŵyr, yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru ac yn hanfodol i wylwyr adar a’r rhai sy’n dwlu ar fywyd gwyllt. Mae rhai o’r adar prin a diddorol sy’n byw yn y rhan hon o’r byd yn cynnwys y gnocell werdd, yr ehedydd, y boncath a’r peneuryn. Yn y môr, mae’n gyffredin gweld morloi llwyd, gyda llamhidyddion a hyd yn oed heulforgwn i’w gweld bob hyn a hyn. Mae’r darn hwn o arfordir hefyd wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd pwysigrwydd daearegol ei ffurfiannau creigiau.

 

Mwy O Wybodaeth

Canllaw Lawrlwytho

 


 

Swansea-walking routes

 

Mwynhewch dro bach heddychlon trwy goetir a thir comin heb ei ddifetha a gweld golygfeydd ysblennydd tua’r Bannau Brycheiniog. Tan 1962, roedd llawer o Gwm Clydach yn byllau glo gweithiol, gyda gweddillion y pyllau, y dramffordd a’r adeiladau glofa i’w gweld o hyd heddiw. Mae’r ardal hefyd yn warchodfa natur RSPB ac ni fydd yn rhaid i chi edrych yn bell i weld nifer o rywogaethau o adar ac ieir bach yr haf godidog. Hefyd ar y ffordd y mae Capel Gellionnen, Capel Undodaidd a adeiladwyd ym 1692 – cadwch lygad am ddarnau copi o groes Geltaidd o’r 8fed ganrif o Eglwys Llan Eithrim gerllaw wedi’i gosod yn y wal allanol (mae’r groes wreiddiol i’w gweld o hyd yn Amgueddfa Abertawe). Angen saib? Archwiliwch bentref Craig-cefn-parc a mwynhau paned haeddiannol.

 

Mwy O Wybodaeth

Canllaw Lawrlwytho

 


 

Swansea-walking routes

 

Wedi’i lleoli ar hyd 5 milltir o fae tywodlyd, Abertawe yw dinas glannau Cymru. Gyda thros 230 o siopau, marchnad dan do fwyaf Cymru, parciau a gerddi arobryn, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe (yr hynaf yng Nghymru). Mewn gwirionedd, os dilynwch y llwybr hwn, rydyn ni’n sicrhau na fyddwch yn colli dim, gan ei fod wedi’i ddyfeisio i gynnwys y deg atyniad yn Abertawe y gofynnir amdanyn nhw amlaf. Does dim rhaid i chi weld pob un, ond mae’n ffordd wych o archwilio’r gorau oll y gall canol y ddinas ei gynnig. Ein hawgrym; mwynhewch bryd neu ddiod ym mwyty’r Grape & Olive ar frig adeilad preswyl uchaf Cymru, a gweld y golygfeydd panoramig ar draws Bae Abertawe.

 

Mwy O Wybodaeth

Canllaw Lawrlwytho

 


Angen perswâd? Gallwch ei weld drosoch eich hunan yn ein fideo newydd

 

“>

 

Teimlo’n ysbrydoledig? Dyma rai dolenni defnyddiol:

 

Archwiliwch Fae Abertawe trwy Lwybr Arfordir Cymru:

Swansea walking routes

 

Mae angen gwyliau ar gŵn hefyd ac maen nhw’n cael croeso cynnes ym Mae Abertawe.

Swansea-walking routes

 

Dod â’ch beic(iau)? Dim problem!

Swansea-walking routes