fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

7 Diwrnod, 7 Traethau...


C 24th July 2015

7 Diwrnod, 7 traeth…

Hwre!!!  Mae’n wyliau haf o’r diwedd! Ac yn ysbryd yr haf rydym yn dathlu drwy ddewis 7 o’n traethau hyfryd i chi eu harchwilio.

Rydym wedi dewis 7 traeth gan roi’r cyfle i chi brofi traeth gwahanol bob dydd am wythnos gyfan! O berlau tawel, cudd, i draethau sy’n addas i’r teulu ac sy’n llawn gweithgareddau, mae’n siŵr y byddwch yn dod o hyd i’ch traeth perffaith yma ym Mae Abertawe a byddwch yn dechrau dwlu ar hoff forlin y DU!

Mae’r tirluniau bendigedig (dewch â’ch camera!) a’r gweithgareddau amrywiol yn gwneud Bae Abertawe’n lle y mae’n rhaid i chi ymweld ag ef pa bynnag fath o antur yr ydych yn ei hoffi (mae hyn yn cynnwys anturiaethau tawel, hamddenol!). Gallwch ddewis syrffio ar draeth Caswell a Rhosili, neu fynd i gerdded am brynhawn ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr – mae gennym y tywod, y môr, y clogwyni, a’r forlin – y cyfan mae arnoch ei angen yw eich hun!

Felly, mae gennym 7 traeth isod, un ar gyfer pob dydd o’r wythnos! Ond mae llawer mwy, cymerwch gipolwg ar ein tudalennau traethau er mwyn darganfod mwy neu lawrlwythwch gopi o’n Harweiniad Traethau.

 

Bae’r Tri Chlogwyn

Mae’r bae’n berffaith ar gyfer rhywun sy’n chwilio am antur, ac mae ganddo deimlad o fod ym mhell o bopeth ac mae wedi’i amgylchynu gan dwyni tywod, clogwyni a chorsydd halen – mae’n wych ar gyfer fforwyr!

Mae popeth yn digwydd yma – marchogaeth, dringo creigiau, abseilio a phadlfyrddio ar eich traed; nid ydych byth yn bell o brofiad cyffrous!

Ond hei, dyma’r rhan ddifrifol – mae’r Tri Chlogwyn yn hyfryd, ond mae hefyd ganddo ochr wyllt. Mae’n well gwirio amserlen y llanw cyn gwneud unrhyw weithgaredd gan fod cerhyntau cryf yn y bae.

Traeth sy’n caniatáu cŵn yw hwn, sy’n golygu bod croeso i’n ffrindiau blewog drwy gydol y flwyddyn.

Byddwch yn actif ym Mae’r Tri Chlogwyn gyda:

 

Traeth Bae Rhosili

Gyda 3 milltir o dywod aur a morlin werdd ffrwythlon, mae Bae Rhosili (wrth gwrs!) wedi bod yn un o’r tri thraeth gorau am dair blynedd yn olynol yng Ngwobrau Dewis Teithwyr TripAdvisor. Ym mhen mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr (yr ardal gyntaf yn y DU i dderbyn statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), mae nifer mawr o resymau i ymweld â Rhosili gan gynnwys y Pen Pyrod eiconig a golygfeydd syfrdanol o frig Rhosydd Rhosili.

Hoffi syrffio? Byddwch yn dwlu ar Fae Rhosili. Mae chwaraeon dŵr yn sicr ar gael, yn ogystal â theithiau cerdded ar hyd y clogwyni – ac a wnes i sôn am y golygfeydd syfrdanol?

A gyda thair milltir o dywod i redeg arno (drwy’r flwyddyn heb unrhyw gyfyngiadau) bydd eich ffrindiau pedwar coes yn dwlu arno hefyd!

Parchwch y tonnau – gall y llanw ddod i mewn yn gyflym yma ac mae cerhyntau cryf, felly mae angen i chi wirio’r amserlen llanw cyn i chi gael antur ar Ben Pyrod neu Burry Holms.

Byddwch yn Actif ym Mae Rhosili gyda:

 

Traeth Bae Abertawe

Yn agos iawn at ganol y ddinas, mae’r traeth hwn yn berffaith ar gyfer mynd am dro ar hyd y prom. Gyda digonedd o le a thywod, mae’n wych ar gyfer chwaraeon dŵr megis padlfyrddio ar eich traed, caiacio, pŵer-farcuta a phêl-foli.

Rhy egnïol? Agorwch eich tywel a mwynhewch amser arbennig gyda’ch teulu.

Yn Lido Blackpill, mae pwll diogel i blant sblasio, ardal chwarae i blant a digon o le i gael picnic yn edrych dros Ben y Mwmbwls – hyfryd!

Am gael cappuccino? Yn dyheu am gael hufen iâ? Nid ydych byth yn bell o brofiad bwyd gwych ar hyd y bae. I gael paned gyda golygfa, Caffi 360 yw’r lle perffaith (dyma’r lle i gadw lle ar gyfer chwaraeon traeth a phadlfyrddio ar eich traed hefyd!). Ond i gael golygfa o’r awyr a phrofiad bwyta i’w gofio, ewch i ben Tŵr Meridian a bwyty Grape and Olive.

Wrth ystyried ein hymwelwyr ieuengaf, mae cyfyngiadau cŵn yn ystod yr haf ar hyd rhannau penodol o’r bae (cadwch lygad am yr arwyddion ar fannau mynediad i’r traeth).

Byddwch yn Actif ym Mae Abertawe gyda:

 

Traeth Bae Langland

Am daro’r tonnau? Neu gallwch roi cynnig ar arfordiro, chwilio pyllau gyda’r plant, neu ymlacio gyda phicnic ar y traeth. O amgylch y gornel o’r ddinas mae gan Fae Langland deimlad hafol, glan môr, cadarnhaol a fydd yn sicr yn gwneud i chi wenu.

Rhowch drît i’ch hunan gyda hufen iâ cartref sy’n cael ei weini yn y caffi gerllaw. Dyma rywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud ar ôl prynhawn llawn antur yn archwilio’r rhan hyfryd hon o dywod aur a chlogwyni.

Mae’n lle poblogaidd sy’n addas i’r teulu, gyda llawer o adeiladu cestyll tywod difrifol, felly gofynnir i gŵn ymweld ag un o’n traethau eraill yn ystod yr haf.

Ewch am dro ar hyd llwybr yr arfordir er mwyn archwilio ein traeth nesaf….

Byddwch yn Actif ym Mae Langland gydag:

 

Traeth Bae Caswell

Mae’r rhan hyfryd hon o dywod aur yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau traeth; gan gynnwys syrffio, dringo creigiau, arfordiro a hyd yn oed abseilio.

Mae’n berffaith ar gyfer diwrnod mas gwych i’r teulu gyda chyfleusterau defnyddiol gerllaw – felly os ydych yn cyrraedd heb eich bwced a rhaw, does dim problem! Mae gan Fae Caswell holl nodweddion hanfodol glan y môr gyda thywod gloyw, môr sy’n addas ar gyfer syrffio ac amgylchedd cyffeillgar llawn hwyl ar ddiwrnod braf o haf!

Ac mae wedi ennill gwobr y Faner Las a’r Wobr Glan Môr. Mae’n hawdd ei gyrraedd, gyda safle bws a maes parcio gerllaw. Gofynnir i’n ffrindiau blewog ymweld ag un o’n traethau gwych eraill yn ystod misoedd yr haf.

Byddwch yn Actif ym Mae Caswell gyda:

 

Traeth Bae Porth Einon

Mae Porth Einon yn bentref prysur ar benrhyn Gŵyr sydd â digonedd o swyn glan môr, sy’n agos iawn at y traeth. Felly, mae’n wych ar gyfer diwrnod ar y traeth gyda’r teulu – mae’n hawdd ei gyrraedd, yn hawdd parcio yno neu i gyrraedd ar fws, ac mae digon o gyfarpar traeth hanfodol gerllaw. Am ymestyn eich coesau? Yna ewch ar lwybr yr arfordir unwaith eto neu archwiliwch Dŷ Halen hynafol Gŵyr ar hyd y bae.

Mae Porth Einon yn arobryn hefyd, gyda Baner Las a’r Wobr Glan Môr a’r sicrwydd o achubwr bywyd ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi. Mae cyfyngiadau cŵn ar waith yn ystod yr haf ar hyd rhannau penodol o’r bae (cadwch lygad am yr arwyddion ar fannau mynediad y traeth).

Byddwch yn Actif ym Mhorth Einon gydag:

 

Traeth Bae Bracelet

Mae’n wych meddwl bod y rhan hyfryd hon o forlin wyllt mor agos at y ddinas. Mae Bae Bracelet, enillydd gwobr arall, yn cynnig cyfle i chwilio pyllau dŵr o’r radd flaenaf, felly dewch â bwced a rhwyd i fynd ar antur o dan y dŵr.

Mae’n dda cael gwybod bod achubwr bywyd yn gwylio’r traeth rhwng mis Mai a mis Medi, gan ei wneud yn opsiwn nofio diogel os ydych chi a’r rhai bach yn dymuno mynd i mewn i’r môr!

Ond mae rhaid i anifeiliaid anwes y teulu nofio yn un o’n traethau gwych eraill yn ystod yr haf!

Gweithredwyr: