fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Llwybr Cerdded Treftadaeth Mawr


C 12th August 2014

Trosolwg o Lwybr Cerdded Treftadaeth Mawr

Parsel Mawr, sy’n fwy adnabyddus fel ‘Mawr’ yn unig, yw cefn gwlad wledig brydferth Abertawe.
Mae Llwybr Treftadaeth Mawr yn mynd â cherddwyr drwy bentref hardd Felindre a Chronfa Ddŵr boblogaidd Lliw Isaf, gan fynd heibio i dirnodau sy’n dangos cyfraniad arwyddocaol Mawr at dwf Abertawe a de Cymru trwy ei ffermydd, ei lofeydd a’r gronfa ddŵr ei hunan.

 

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd.
Math o lwybr: Cylch.
Yn addas ar gyfer: Pawb.
Natur y tir: Tarmac a pheth tir anwastad o gwmpas y gronfa. Rhai camfeydd, un rhes o risiau ac un ffordd weddol serth.
Dechrau a diwedd: Cronfa Ddŵr Lliw Isaf.
Pellter y daith: Tua 3.5 milltir (5.6km).
Amser cyfartalog: 2.0 – 2.5 awr.

 

Map o’r Llwybr

Os yw’r daith gerdded hon yn apelio atoch, beth am lawrlwytho’r arweiniad llwybrau cerdded bychan gwych hwn.

LAWRLWYTHO MAP O’R LLWYBR >>

Lawrlwytho map o’r llwybr >>

 

Gwybodaeth Defnyddiol

Cludiant Cyhoeddus: Oes, cysylltwch â Chanolfan Croeso Abertawe am fwy o fanylion.
Meysydd Parcio: Yng Nghronfa Ddŵr Lliw Isaf.
Lluniaeth: Caffi a Physgodfa Lliw yng Nghronfa Ddŵr Lliw Isaf, Tafarn Wledig Shepherds yn Felindre.
Toiledau Cyhoeddus: Oes, yng Nghronfa Ddŵr Lliw Isaf.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.

 

Gwybodaeth am Ddiogelwch

Tarmac yn bennaf gyda pheth tir anwastad o gwmpas y gronfa ddŵr. Rhai camfeydd, un rhes o risiau ac un ffordd weddol serth.

 

Manylion y daith gerdded

  • Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. Ewch wrthglocwedd ar hyd llwybr tarmac sydd wedi’i nodi’r glir.
  • Ewch heibio adfeilion pwll glo Fictoraidd Felindre cyn troi i’r chwith i lawr llethr ac ar draws y nant i ochr arall y gronfa (mae opsiwn i barhau yn syth ar hyd y ffordd am filltir ychwanegol i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf).
  • Trowch i’r chwith ar ochr arall y bont a pharhau gwrthglocwedd ar hyd glan arall y gronfa ddŵr.
  • Gadewch y gronfa y tu ôl i chi i barhau yn syth ar hyd Llwybr y Bugail tuag at bentref Felindre.
  • Ewch i mewn i’r pentref ar hyd Heol Myddfai, gan fynd heibio capel Nebo ar y chwith.
  • Ewch tua’r bont sy’n croesi afon Lliw a heibio’r hen felin, cyn mynd yn ôl i’r gronfa ddŵr ar hyd Heol Myddfai a Llwybr y Bugail.

 

Uchafbwyntiau

  • Adeiladwyd Cronfa Ddŵr Lliw Isaf rhwng 1862 a 1867 i ddarparu dŵr glân i dref Abertawe a oedd yn ehangu’n gyflym, gyda’i thoreth o weithfeydd mwyndoddi copr, haearn a thunplat. Yn sgîl ei chwblhau datblygodd y rhanbarth y trydydd iachaf yn Ewrop.
  • Mae gan Mawr hanes cyfoethog o gloddio am lo. Ceir tystiolaeth ohono ar y llwybr, sef offer weindio Glyn-deri a storfa phowdr gwn pwll glo Felindre, a adawyd ym 1877.
  • Mae Capel Nebo yn gartref i ‘faen llofruddiaeth’ i goffáu un o’r digwyddiadau mwyaf trychinebus yn hanes hir Mawr, llofruddiaeth y llaethferch, Eleanor Williams.

 

Mwy o wybodaeth

Canolfan Croeso Abertawe
# 01792 468321
@ tourism.team@swansea.gov.uk

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Dinas a Sir Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
i www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Dolenni ychwanegol
i www.baytrans.org.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

 

Mwy am gerdded yn Abertawe, y Mwmbwls, Gŵyr ac Abertawe Wledig

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe yn cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd, gan fynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Darllen mwy: