fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Anrheg canmlwyddiant cynnar i Dylan Thomas


C 25th April 2014

Mae Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe wedi bod ymysg y lleoedd gorau yn y byd i ddysgu am fywyd a gwaith Dylan Thomas erioed, a bydd yn well fyth yn fuan iawn.

Cyhoeddwyd ddoe (ddydd Iau 10 Ebrill 2014) fod tîm Canolfan Dylan Thomas wedi sicrhau grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Defnyddir y grant hwn i ddylunio a gosod arddangosfa newydd sbon ac i ddatblygu rhaglen allgymorth gymunedol a fydd yn sicrhau bod etifeddiaeth Dylan yn parhau.

Honnir mai Dylan Thomas yw’r ail fardd sy’n cael ei ddyfynnu fwyaf yn Saesneg. O fewn y flwyddyn, bydd yr arddangosfa barhaol am Dylan Thomas yn y Ganolfan yn cael ei gwneud yn fwy, yn well ac yn fwy rhyngweithiol. Bwriedir cwblhau’r holl waith erbyn mis Hydref, yn barod ar gyfer canmlwyddiant geni Dylan.

“Mae’r arddangosfa bresennol yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd yn rheolaidd, ond mae bellach yn 15 oed ac mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i fod yn greadigol gyda’r nifer mawr o arteffactau Dylan Thomas sydd gennym fel rhan o’n casgliad. Bydd y grant hwn yn helpu i greu ardal ddysgu ddeniadol ac yn ychwanegu at yr arddangosfa a fydd yn ein helpu i arddangos mwy o’n casgliad yn ogystal â’n galluogi i ddenu arteffactau Dylan Thomas unigryw o bedwar ban byd, gan ei gwneud yn hwb treftadaeth rhyngwladol arbennig.”
Meddai’r Cyng. David Phillips, Arweinydd Cyngor Abertawe.

“Fel dinas ddiwylliant Cymru, mae’n bwysig nad yr arddangosfa yw’r unig le yn Abertawe lle gall pobl gael mynediad i’n casgliad arbennig o ddeunyddiau Dylan Thomas. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i sefydlu rhaglen addysg a chynnwys y gymuned gyffrous oddi ar y safle i sicrhau bod ysgolion a phobl o bob oedran a chefndir ar draws y ddinas yn gallu dysgu mwy am Dylan a’i fywyd a’i waith mewn ffyrdd a fydd yn eu hysbrydoli. Bydd hyn yn helpu i gynnal ei etifeddiaeth, nid yn unig yn rhyngwladol, ond yn ei ddinas frodorol, Abertawe, hefyd.”
Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio.

“Mae Dylan Thomas yn ffigwr eiconig o Gymru, ond yn ogystal caiff ei adnabod fel un o ffigyrau llenyddol pwysicaf y byd ac mae ei fywyd a’i waith yn rhan ganolog o’n hetifeddiaeth genedlaethol. Yn ystod blwyddyn o ddathliadau a digwyddiadau yn nodi ei fywyd, mae’n bleser gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyfrannu at ddathliadau’r canmlwyddiant trwy sicrhau ei etifeddiaeth.”
Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ganwyd Dylan Thomas yn Abertawe bron i 100 mlynedd yn ôl. Mae’n un o ffigyrau llenyddol eiconig mwyaf Cymru, ac yn amlwg cynhelir nifer o ddathliadau gwych trwy gydol y flwyddyn i ddathlu’r canmlwyddiant. Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys teithiau tywys o Abertawe Dylan ar 20 Ebrill a pherfformiad o ‘Caitlin’ yn Theatr y Grand Abertawe o 12 Mai tan 17 Mai.

I gael rhestr o ddigwyddiadau canmlwyddiant Dylan Thomas 2014, ewch i www.dylanthomas.com.