fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gwyliau'r Pasg ym Mae Abertawe


C 27th March 2014

Rydym yn barod ar gyfer y Pasg ym Mae Abertawe!

Dyma restr o ddigwyddiadau, cynigion arbennig a gweithgareddau i’ch cadw chi (a’r plant!) yn brysur yn ystod gwyliau’r Pasg. Bant â ni i Fae Abertawe!

Os ydych yn dwlu ar anifeiliaid, ewch i Plantasia rhwng 15 a 17 Ebrill lle cewch gyfle i weld tylluanod a hebogiaid tramor (gallwch hyd yn oed afael ynddynt!) Bydd cyfle i deithio ar asyn ar 20 Ebrill hefyd (codir tâl bach). Cewch ddysgu mwy am anifeiliaid diddorol megis tarantwlaod a phryfed brigyn gyda ‘Pryfed Bwystfilaidd a Chwythbibau’ ar 22 a 23 Ebrill.

Mae Abertawe’n gartref i’r amgueddfeydd hynaf a diweddaraf yng Nghymru – ac maent wrth ymyl ei gilydd! Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal Llwybr yr Wŷ Aur rhwng 14 a 27 Ebrill a diwrnod Hwyl Gŵyl y Pasg ar thema Jac a’r Goeden Ffa ar 18 Ebrill. Dewch â’ch popgorn gyda chi a gwnewch eich hunain yn gyfforddus i wylio un o’u ffilmiau’r Pasg – bydd dangosiad o ‘Bambi’ ar Sul y Pasg (cofiwch eich hancesi papur!) a gallwch wylio ‘Hop’ ar ddydd Llun y Pasg. Neu ewch drws nesaf i Amgueddfa Abertawe ar 17 Ebrill i wneud crefftau! Gallwch wneud eich wŷ gemog eich hun yn barod ar gyfer y Pasg gyda’r artist preswyl Ruth McLees.

Bydd llawer o hwyl ac adloniant i’r teulu am ddim ym Marchnad Abertawe ar 16 Ebrill. Ymunwch â’r hwyl rhwng 10.30am a 3.30pm gyda gweithgareddau celf a chrefft, cerddwyr stiltiau, paentio wynebau a gweithdai coginio. Dyma gyfle delfrydol i brynu’r cynhwysion gorau i wledda dros y Pasg. Gallwch fwynhau’r cawsiau, y cocos a’r bara lawr (gwymon!) gorau yng Nghymru a phice bach yn dwym o’r maen!

Os ydych awydd tamaid i’w fwyta amser cinio, beth am gael Cinio Rhost dydd Sul y Pasg yng Ngwesty’r Ddraig gydag adloniant byw ac anrheg bach i’r plant!

Hoffi golffio? Ewch i Glwb Golff Gŵyr ddydd Gwener 18 Ebrill o 2pm i gymryd rhan yn Her Wŷ Pasg y Clwb Golff! Mae llawer o wyau Pasg i’w hennill, gwobr ar gyfer gwisg ffansi orau’r Pasg a sesiynau hyfforddi hefyd!

Mae Canolfan Treftadaeth Gŵyr llawn hwyl y Pasg! O 12 i 27 Ebrill, gallwch gymryd rhan mewn rasys wŷ ar lwy, helfeydd wyau Pasg, gweithdai crochenwaith a sioeau pypedau. Neu ewch i Barc Margam ddydd Llun y Pasg ar gyfer gweithdai syrcas, cerddwyr stiltiau Wizard and Ringmaster a llawer mwy o hwyl!

Awydd sioe? Ewch i Theatr y Grand Abertawe. Gall y plant ieuengaf ddewis rhwng The Chris and Pui Roadshow, Bananas in Pyjamas neu’r Gruffalo. A gall plant hŷn fwynhau Disney’s High School Musical ar 26 Ebrill.

Ddim eisiau mynd adref? Arhoswch yma! Mae gan y Village Urban Resort gynnig arbennig i aros yn ystod y Pasg, felly nid oes rhaid i chi adael eto…

I gael mwy o awgrymiadau fel hyn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr. Rydym yn gobeithio eich gweld chi’n fuan!