fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Traeth Gorau Prydain: Bae Rhosili


C 18th March 2014

Ydych chi wedi clywed? Bae Rhosili yw traeth gorau Prydain o hyd. Mae wedi ei gwneud hi eto! Am ail flwyddyn yn olynol!! Ac mae tîm dewchifaeabertawe.com bron yn methu cuddio eu cyffro ers cael eu rhoi ar lw i gadw’r gyfrinach ychydig dros wythnos yn ôl. Dynodwyd penrhyn Gŵyr yn ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ym 1956 ac, yn 2014, Bae Rhosili yw’r traeth cyntaf i gyrraedd brig siartiau Dewis Teithwyr TripAdvisor fel y traeth gorau ym Mhrydain ddwy flynedd yn olynol. Ond chwarae teg, mae’n eithriadol o hardd.

 

TripAdvisor yw gwefan deithio fwyaf y byd sy’n denu mwy na 260 miliwn o ymwelwyr unigol bob mis. Meddai James Kay, Llefarydd ar ran TripAdvisor,

 

“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y traethau gorau yn y DU ac yn fyd-eang, yn ôl y teithwyr sydd wedi ymweld â hwy ac wedi canu eu clodydd. Mae’r ffaith bod traeth yng Nghymru wedi’i enwi, nid yn unig yn un o draethau gorau Ewrop ond ymysg y rhai gorau yn y byd, yn dangos pa mor ffodus ydym ni yn y DU bod golygfeydd mor ysblennydd ar garreg ein drws.”

 

Mae enillwyr gwobrau Dewis Teithwyr yn cael eu dewis yn seiliedig ar sgorau ac adolygiadau gan ddefnyddwyr TripAdvisor. Gellir dadlau mai dewis y bobl ydynt. Ac mae’r ‘bobl’ ar TripAdvisor yn gwybod eu pethau os ydych yn chwilio am wybodaeth deithio. Mae Bae  Rhosili yn gartref Pen Pyrod,  tirnod mwyaf adnabyddus penrhyn Gŵyr yn ôl rhai. Mae ei enw Saesneg (Worm’s Head) yn tarddu o air y Llychlynwyr am ddraig, sef ‘Wyrm’. Gallwch weld pam wrth edrych arno’n ymestyn i’r môr o ben mwyaf dwyreiniol Bae Rhosili. Gall y rhai mwy anturus ddofi’r ddraig drwy ddringo ar ei thraws. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio amserau’r llanw – gall fod yn beryglus iawn os ydych yn croesi ar yr adeg anghywir.

 

Mae Bae Rhosili a Phen Pyrod wedi cael eu cyfran deg o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Maent wedi cael eu gweld mewn penodau o ‘Doctor Who’ a ‘Torchwood’, y ffilm ‘Edge of Love’ a seremoni agoriadol Gemau Olympaidd 2012, i enwi ychydig o enghreifftiau yn unig. Yr wythnos hon caiff gwefan newydd sbon dewchifaeabertawe.com ei lansio ac mae gennym gystadleuaeth wych i ddathlu hynny. Rydym yn cynnig cyfle i gael gwyliau saith niwrnod am ddim yn Hen Reithordy’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhowch gynnig arni nawr am y cyfle i traeth weld gorau Prydain drwy eich ffenestr flaen bob dydd am wythnos.

I dderbyn rhagor o wybodaeth am Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr drwy e-bost a’r holl fanylion am gystadlaethau yn y dyfodol  – cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr gan ddefnyddio’r ffurflen isod.