fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Pobl o bedwar ban byd yn ymweld ag Abertawe ar gyfer Gwyl Dylan Thomas


C 30th October 2013

Roedd pobl o Frasil ac America ymhlith yr ymwelwyr o bob cwr o’r byd a heidiodd i benwythnos agoriadol Gwyl Dylan Thomas 2013.

DT_Centre_-_exterior_1

Dylan Thomas Centre

Mae ffigurau’n dangos fod cannoedd o bobl wedi mynd i ddigwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe ddydd Sadwrn a dydd Sul. Roedd y cerddor lleol a chyn-seren y West End, Steve Balsamo, ymhlith yr ymwelwyr hefyd.

 

Lansiwyd yr wyl gan y bardd, y darlledwr BBC Radio 4 a’r awdur plant, Roger McGough, gyda darlleniadau o’i gasgliad newydd o farddoniaeth. Roedd y nofelydd lleol arobryn, Stevie Davies, hefyd wrth law gyda gweithdy ysgrifennu.

Bydd yr wyl, a drefnir gan Gyngor Abertawe, yn para tan ddydd Sadwrn 9 Tachwedd. Mae’r digwyddiadau sydd i ddod yn cynnwys ymddangosiad gan yr awdur Indiaidd, Tishani Doshi, a fydd yn trafod ei nofel newydd, ‘Fountainville’, yng Nghanolfan Dylan Thomas nos Fawrth 29 Hydref o 7.30pm. Yn ymuno â hi fydd yr awdur, Cynan Jones, oedd ar restr fer Gwobr Stori Fer y Sunday Times 2013 yn gynharach eleni.

Yna bydd yr awdur Rob Gittins yn y ganolfan o 7.30pm nos Fercher (30 Hydref). Yn ogystal â ‘The Last Days of Dylan Thomas’ a’r ddrama radio ‘Investigating Mr Thomas’, mae Rob wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o raglenni teledu, gan gynnwys Eastenders, Stella a Casualty. Bydd Rob yn trafod cyfnod Dylan yn Efrog Newydd.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae Gwyl Dylan Thomas yn nodwedd bwysig o galendr blynyddol diwylliant Abertawe. Mae’n dathlu mab enwocaf Abertawe, yn rhoi Abertawe ar fap y byd ac yn cryfhau ein henw fel dinas sy’n croesawu ac yn annog rhagoriaeth ddiwylliannol.

“Mae safon rhaglen eleni’n drawiadol dros ben – mae’n cyfuno ysgrifenwyr o safon ryngwladol gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill ac adloniant a fydd yn apelio at gynulleidfa eang. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni baratoi i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan y flwyddyn nesaf.”

Mae digwyddiadau eraill yng Ngwyl Dylan Thomas eleni yn cynnwys Diwrnod Doctor Who ddydd Sadwrn (2 Tachwedd) i helpu i ddathlu hanner canmlwyddiant y rhaglen.

Ewch i http://www.dylanthomas.com am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 463980.