fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Llwyddiant ail dymor i gyrchfan Bae Abertawe


C 29th May 2013

Oherwydd gorchestion ar y maes chwarae gan ein sêr pêl-droed fel Michu yn yr Uwch-gynghrair, nid yw diddordeb ym Mae Abertawe erioed wedi bod yn uwch

02-green_solidColour_1

VisitSwanseaBay.com

Mae ffigurau’n dangos mwy na miliwn o drawiadau tudalen ar wefan swyddogol Cyngor Abertawe, Dewch i Fae Abertawe, hynny yw dros 2,700 o drawiadau tudalen y dydd.

 

Defnyddiwyd delweddau o Benrhyn G?yr, gan gynnwys dolen y wefan ar ymgyrchoedd poster yn lleoliadau pêl-droed y DU cyn gemau cartref yn Stadiwm Liberty. Roedd hyn yn cynnwys ymgyrchoedd yn Lerpwl, Manceinion a Llundain.

Hefyd, defnyddiwyd hysbysebu ar y maes yn ystod Cwpan Capital One.

Cynyddodd cefnogwyr Dewch i Fae Abertawe Facebook 246% yn 2012 a chynyddodd dilynwyr Twitter 96%.

Hefyd, denodd Cyngor Abertawe 23 o newyddiadurwr i dreulio amser ym Mae Abertawe yn ystod tymor pêl-droed 2012/2013, gan helpu i greu miloedd o fodfeddi colofnau cadarnhaol. Roedd hyn yn fwy na dwbl yr ymweliadau tebyg a drefnwyd yn ystod tymor 2011/2012.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae syndrom ail dymor yn derm adnabyddus yn y byd chwaraeon, ond gwrthwynebodd yr Elyrch y duedd trwy orffen hyd yn oed yn uwch yn yr Uwch-gynghrair na’r flwyddyn gynt ac ennill cwpan pwysig. Roedd y rhain yn gyflawniadau penigamp, ond roedd yn bwysig i ni wneud cystal â Michael Laudrup a’i garfan ryfeddol oddi ar y maes trwy fanteisio i’r eithaf ar eu proffil ac annog pobl i ddod a darganfod y ddinas sydd yn y penawdau.

“Mae ffigurau gwefan Dewch i Fae Abertawe’n dweud y cyfan, ond ni chafodd ei gyflawni trwy hysbysebu awyr agored yn unig. Gwnaeth ein staff lawer o waith hefyd ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth ddenu newyddiadurwyr o bob rhan o’r DU a’r tu hwnt i gynyddu ymwybyddiaeth o Fae Abertawe.

“Byddwn yn parhau i hyrwyddo Bae Abertawe dros yr haf ac, fel yr Elyrch, byddwn yn barod i wella eto pan fydd y tymor newydd yn cychwyn ym mis Awst. Hefyd, mae’n debyg y bydd mwy o ddiddordeb gan ymwelwyr Ewropeaidd y tymor nesaf gan fod yr Elyrch wedi cymhwyso ar gyfer Cynghrair Europa.”

Roedd rhai o ymgyrchoedd 2012/2013 yn cynnwys posteri a oedd yn dangos mannau hardd G?yr ar drenau tanddaearol Llundain gyda chodau QR (Ymateb Cyflym) y gallai pobl â ffonau clyfar eu sganio i fynd yn syth i wefan Dewch i Fae Abertawe. Roedd llinellau bachog yn cynnwys ‘Lle daw’r maes a’r môr ynghyd’ ac ‘Y ffordd yma i ddihangfa fawr G?yr’.

Roedd y papurau newydd a roddodd sylw cadarnhaol i Fae Abertawe’n cynnwys y Daily Mirror, y Sunderland Echo a’r Wigan Observer. Roedd sôn am Fae Abertawe hefyd mewn papurau newydd yn Nenmarc a De Corea