fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Traethau Gwyr yn ennill statws Baner Las eto


C 20th May 2013

Mae pedwar traeth ar Benrhyn Gwyr wedi’u cydnabod unwaith eto am eu hansawdd.

langland_huts_1

Langland Bay Beach Huts

Mae Bae Bracelet, Bae Caswell, Porth Einon a Bae Langland i gyd wedi derbyn statws Baner Las rhyngwladol pwysig ar gyfer 2013.

 

Rhoddir y Faner Las gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE), sy’n sgorio traethau ar gategorïau gan gynnwys diogelwch, cyfleusterau, rheoli amgylcheddol ac ansawdd dwr.

Mae’r pedwar traeth ar Benrhyn Gwyr wedi cadw’r statws, er gwaethaf y ffaith bod meini prawf mwy llym wedi’u defnyddio eleni yn y broses ddyfarnu ar gyfer ansawdd dwr, gan olygu nad oedd modd i rai traethau yng Nghymru wneud cais.

Mae Marina Abertawe hefyd wedi ennill statws Baner Las ar gyfer 2013 – un o bum marina yn unig yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth o ganlyniad i ragoriaeth mewn meysydd fel darpariaeth cyfarpar achub bywydau a chyfleusterau i ailgylchu a gwaredu gwastraff.

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Rydym yn ymfalchïo yn ein traethau trawiadol ac mae’r Faner Las yn arwydd bod ganddynt ansawdd d?r ardderchog a chyfleusterau neilltuol sy’n bodloni safonau Ewropeaidd uchel. Mae hyn yn golygu y gall teuluoedd a selogion chwaraeon d?r fwynhau traeth diogel a glân i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliadau â glan y môr.

“Mae hefyd yn galonogol bod ein pedwar traeth Baner Las a Marina Abertawe wedi cadw’r statws pwysig yn ystod blwyddyn pan gafwyd gostyngiad yn nifer y traethau yng Nghymru a gafodd eu cydnabod.

“Mae ein golygfeydd awyr agored trawiadol yn ennill un wobr ar ôl y llall ac mae hyn yn atgyfnerthu enw da Bae Abertawe fel prif atyniad i ymwelwyr.”

Daw gwobrau Baner Las 2013 yn sgîl enwi Bae Rhosili’n draeth gorau’r DU ar TripAdvisor, un o wefannau mwyaf poblogaidd y byd ar gyfer teithio. Hefyd, y man harddwch lleol hwn gafodd ei enwi fel y trydydd traeth gorau yn Ewrop a’r degfed gorau yn y byd yng Ngwobrau Traeth Dewis Teithwyr 2013.

Mae’r gwobrau’n seiliedig yn llwyr ar adborth miliynau o deithwyr ar draws y blaned. Roedd traethau trawiadol mewn gwledydd fel yr Eidal, Groeg a Thwrci ymysg y rhai yn Ewrop yr oedd Bae Rhosili wedi’u curo. Whitehaven yn Queensland, Awstralia, a Horseshoe Bay yn Bermwda yw rhai o’r traethau eraill sy’n ymuno â Rhosili yn neg uchaf y byd.

Mae Michu, ymosodwr i’r Elyrch, hefyd wedi datgan ei fod yn dwlu ar Fae Rhosili trwy rannu lluniau syfrdanol o’r man harddwch ar Facebook yn ddiweddar.

Ewch i www.dewchifaeabertawe.com/beaches i gael mwy o wybodaeth am draethau Abertawe.