fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Merch un o enwogion y byd cerddoriaeth yn talu teyrnged i'w thad adnabyddus


C 9th April 2013

Mae merch Pete Ham, un o enwogion y byd cerddoriaeth, yn dweud ei bod yn teimlo’n agosach at ei thad pan mae’n dod i Abertawe.

PeteHam_1

Pete Ham

Mae Petera Ham, sy’n byw yn Glasgow, yn ymweld ag ardal Abertawe ddiwedd mis Ebrill i ddathlu bywyd ei thad.

 

Mae Pete, a oedd wedi sefydlu’r gr?p roc o’r 1970au, Badfinger, yn adnabyddus am helpu i gyfansoddi’r gân ‘Without You’ – cân a ddaeth yn ffenomem byd-eang i Harry Nilsson ym 1972 a recordiwyd wedi hynny gan Mariah Carey.

Yn 27 oed, lladdodd Pete ei hun ym 1975. Ganwyd Petera fis ar ôl iddo farw.

Mae plac glas yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn 27 Ebrill i anrhydeddu ei thad. Bydd y plac yn Ivey Place yn agos at orsaf drenau Abertawe oherwydd dyna lle’r oedd band cyntaf Pete, The Iveys, yn ymarfer yn wreiddiol.

Ymysg y caneuon poblogaidd eraill yr oedd Pete wedi’u cyfansoddi i Badfinger oedd ‘No Matter What’, ‘Day After Day’ a ‘Blodwyn’.

Meddai Petera, “Rwy’n falch bod y ddinas lle magwyd fy nhad yn ei anrhydeddu â phlac glas. Roedd yn Gymro i’r carn ac roedd bob amser yn gadael i bobl wybod hynny. Blodwyn oedd un o hoff ganeuon fy mam-gu a bellach mae’n un o’m hoff ganeuon innau hefyd.

“Rwy’n dwlu bod yn Abertawe a chlywed lleisiau Cymreig – gallaf deimlo presenoldeb fy nhad o’m hamgylch pan rwy’n dod i’w gartref. Er fy mod wedi fy ngeni ar ôl iddo farw, dysgais lawer amdano gan fy mam a’i ffrindiau. Roedd yn ddyn tawel nad oedd ots ganddo am enwogrwydd – y pethau roedd yn poeni amdanynt oedd ei gerddoriaeth, ei ffrindiau a’i deulu.”

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Bydd y cynllun plac glas yn cydnabod pobl sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at roi Abertawe ar y map dros y canrifoedd, boed trwy gerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf neu feysydd eraill.

“Plac glas Pete yw’r cyntaf o sawl un a gaiff eu dadorchuddio yn Abertawe eleni. Rydym wedi cyflawni pethau gwych fel dinas ac mae’r cynllun hwn yn dathlu unigolion sydd wedi bod yn ganolog i’n llwyddiant.”

Ar ôl dadorchuddio’r plac, bydd cyngerdd teyrnged yn Theatr y Grand. Bydd Bob Jackson o Badfinger, aelodau’r Storys, Mal Pope a dau aelod gwreiddiol o The Iveys, Ron Griffiths a David Jenkins, ymhlith y perfformwyr.

Mae tocynnau’r cyngerdd ar gael nawr drwy Theatr y Grand yn http://www.swansea.gov.uk/index.cfm?articleid=480 neu drwy ffonio 01792 475715.