fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Naws Abertawe'r 1930au yn cael ei ail-greu mewn ystafell de newydd yn y parc


C 5th April 2013

Bydd ystafell de sy’n ail-greu ysbryd creadigol Abertawe’r 1930au yn agor cyn bo hir ym Mharc Cwmdoncyn y ddinas

Scene_of_Cwmdonkin_Park_1

Cwmdonkin Park, Swansea

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi trosglwyddo allweddi caffi’r ciosg ym mhafiliwn bowls y parc sydd wedi’i ailwampio, i denant newydd a fydd yn agor yr atyniad dros wyliau’r Pasg.

 

Bydd y caffi, a gaiff ei gynnal gan y wraig fusnes, Jax Robinson, yn creu awyrgylch a fydd yn atgoffa pobl o oes aur Dylan Thomas a Bois y Kardomah.

Mae caffi’r ciosg yn un nodwedd o brosiect adnewyddu mawr parhaus yn y parc sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Prosiect Twristiaeth Gynaliadwy Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyngor Abertawe a Chyfeillion Parc Cwmdoncyn.

Mae Parc Cwmdoncyn o fewn tafliad carreg i gartref plentyndod Dylan yn Rhodfa Cwmdoncyn. Mae’r parc yn cael ei weddnewid yn barod i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan yn 2014.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Mae’n bwysig ein bod yn dathlu cysylltiadau agos Abertawe â Dylan Thomas am fod ei etifeddiaeth barhaus yn rhoi ein dinas ar y map rhyngwladol flynyddoedd lawer wedi’i farwolaeth.

“Bydd yr ystafell de newydd hon yn helpu i ail-greu awyrgylch cyfnod a oedd yn oes aur i lenyddiaeth yn Abertawe pan osododd seiri geiriau lleol sylfeini cryf ar gyfer ein statws fel dinas diwylliant nodedig.

“Mae’n un agwedd ar raglen adnewyddu barhaus yn y parc a fydd mwy neu lai wedi’i chwblhau erbyn dechrau’r haf.”

Mae DT100 yn wyl sy’n cael llawer o sylw i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith i gydlynu gweithgareddau yng Nghymru, ynghyd â’i phartneriaid – Cyngor Celfyddydau Cymru; y Cyngor Prydeinig; Cyngor Sir Gâr; Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Abertawe a Cadw. Nod yr holl bartneriaid yw sicrhau bod yr wyl yn cyflwyno manteision addysgol, diwylliannol a thwristiaeth cyn, yn ystod ac ar ôl 2014.

Mae agweddau eraill ar y cynllun adnewyddu ym Mharc Cwmdoncyn yn cynnwys gwella Cysgodfa Dylan Thomas ac ardal eistedd ganolog gyda dyfyniadau o rai o weithiau enwocaf Dylan wedi’u cerfio ar gerrig.

Mae system ddraenio a thoiledau’r parc hefyd wedi’u hailwampio. Mae mynedfeydd yn cael eu gwella a’u tacluso a gallai gwaith plannu barhau tan yr hydref.

Cadwch lygad ar wefan www.swansea.gov.uk/cwmdonkinpark am y rhaglen ddigwyddiadau newydd yn y parc yr haf hwn.