fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae tymor yr hydref yn Abertawe’n adeg hyfryd o’r flwyddyn; does dim byd gwell na’r aer yn oeri ryw ychydig a’r dail ar y coed yn newid eu lliw yn araf.

Mae’n adeg gwirioneddol wych i ddarganfod, neu ailddarganfod, yr hyn sydd ar garreg eich drws ac mae gennym gymaint i chi eu harchwilio dros y misoedd nesaf. Byddwn yn postio llawer o wybodaeth ar ein cyfryngau cymdeithasol felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Facebook a Twitter – nid ydym am i chi golli ein teithiau cerdded ffeithiol a’n syniadau llwybrau beicio.

Ar ddydd Gwener 25 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cyfyngiadau symud lleol ar waith yn Abertawe o 6pm ddydd Sul 27 Medi.

Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio fel y bo’n briodol.

 

Mynd am dro ffres, hyfryd

 

Mae’n dywydd gwisgo siwmper yn bendant, felly gwisgwch yn gynnes a dewch i ddarganfod, neu ailddarganfod, rhai o’r parciau a’r mannau awyr agored hyfryd sydd gennym i’w cynnig. Mae gennym gymaint o barciau a mannau awyr agored hyfryd ac os ydych chi’n meddwl eu bod yn edrych yn hardd yn yr haf, maen nhw’n edrych fel tirlun hollol newydd yr adeg hon o’r flwyddyn ac yn wirioneddol drawiadol. Pan fyddwch chi’n mynd o le i le, beth am ddarganfod un o’n nifer o lwybrau cerdded, megis llwybrau Dylan Thomas, Abertawe ganoloesol, mynd am dro i’r Mwmbwls neu weld pethau trwy lygad yr artist gyda llwybr a all ddechrau/orffen yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac sy’n cyfeirio at weithiau amrywiol o gasgliad yr oriel. Cymerwch gip arnyn nhw yma.

Llwybrau cerdded

 

Celf, Arddangosfeydd, Casgliadau a Dysgu yn y Glynn Vivian

 

Gan sôn am y Glynn Vivian, mae staff yn brysur y tu ôl i’r llenni’n paratoi i’ch croesawu nôl gan y bydd yr oriel yn agor ar ddiwedd y mis hwn, gyda newidiadau ar waith fel y gallwch fwynhau ymweliad diogel mewn amgylchedd hamddenol.

Bydd yr oriel yn agor gyda thymor o arddangosfeydd cyffrous mewn partneriaeth â Pride Abertawe.
Dewch i weld arddangosfa brydferth ac unigryw The Tyrrany of Consciousness (2017) gan y gwneuthurwr ffilmiau arloesol, Charles Atlas, sydd ar gael i’w gweld am y tro cyntaf erioed yn y DU; gwaith cydweithredol Pansy, gan Catrin Webster a Roy Efrat, arlunwyr o Abertawe, a chyfres o ffotograffau gan artist newydd Cymru, Dafydd Williams. Mae’r arddangosfeydd hyn yn archwilio themâu cydberthnasol cynhwysiad, amrywiaeth, rhyw, iaith, systemau ideolegol a gwleidyddol a newid yn yr hinsawdd.

Mae’r oriel hefyd yn croesawu arddangosfa deithiol yr Amgueddfa Brydeinig, Pushing paper: Contemporary Drawing from 1970 to now. Mae’n cynnwys gwaith gan David Hockney, Tracey Emin a Grayson Perry.

Dewch i ddarganfod hen ffefrynnau a rhai newydd yn ein harddangosfeydd newydd o gasgliad parhaol yr oriel yn un o adeiladau enwocaf Abertawe, a’r cyfan AM DDIM.

Bydd angen cadw lle ymlaen llaw, mae’r oriel ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 11am tan 3.30pm gyda’r mynediad olaf am 2.40pm.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth yma

 

Darllen, Archwilio a Darganfod Llyfrgelloedd Abertawe

 

Mae’r rheini sy’n dwlu ar ddarllen yn cael y cyfle i ddychwelyd i’w llyfrgell leol i bori drwy’r silffoedd a defnyddio’r gwasanaethau eraill sydd ar gael.

Hyd yn hyn, mae naw llyfrgell wedi ailagor eu drysau unwaith eto a gall ymwelwyr bori drwy’r silffoedd, defnyddio’r cyfrifiaduron, argraffu deunyddiau a chasglu sachau neu fagiau ailgylchu.

Os nad ydych wedi bod i’ch llyfrgell leol am sbel, nawr yw’r amser perffaith i ailddarganfod eich cariad at bopeth sy’n ymwneud â llenyddiaeth, a’r cyfan AM DDIM.

Os nad ydych yn gallu cyrraedd eich llyfrgell leol, mae’r gwasanaeth “Ffonio a Chasglu” ar gael o hyd ond bydd rhaid archebu ymlaen llaw, a gall defnyddwyr fenthyca hyd at 10 eitem am dair wythnos.

I gael yr holl wybodaeth am lyfrgelloedd

 

Ar eich Beic!

 

Yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i ddarparu a hyrwyddo llwybrau teithio llesol ar draws Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn golygu y gall rhagor ohonom deithio’n hawdd ac yn ddiogel ar droed neu ar feic.

Felly, os oes well gennych ddefnyddio dwy olwyn yn lle pedwar, beth am ddarganfod gwahanol rannau o Abertawe ar daith feicio? Mae llwybr beicio Dyffryn Clun yn cynnig nifer o gyfeiriadau at hanes ar hyd y ffordd ac mae ein llwybr beicio Copropolis yn dangos treftadaeth ddiwylliannol yr ardal gan amlygu rhai o’r cysylltiadau copr a hwylusodd anterth y diwylliant copr.

ddarganfod ein llwybrau beicio

Mae cynifer o fuddion, megis cwrdd â phobl newydd, gwella’ch lles corfforol a meddyliol, arbed arian ar barcio a phetrol, a’r cyfan wrth fwynhau’r ddinas a’r hyn o’i chwmpas, lleihau eich ôl-droed carbon a chreu amgylchedd mwy diogel sy’n dawelach ac yn lanach

If you’re not sure where to start, getting back on your bike is easy! You could choose to cycle the curve of Swansea Bay and take in the fantastic views across to Mumbles Head, ride around some of the quieter roads, follow riverside routes, coastal paths or enjoy a journey of discovery on the North Gower cycle route.

Os nad ydych yn siŵr sut i ddechrau, mae dringo ar gefn eich beic yn hawdd! Does dim ots os nad ydych wedi beicio am flynyddoedd, erioed wedi beicio neu fel arfer yn beicio’n hamddenol, mae’n hawdd i deithio gyda Llwybrau Bae Abertawe, cymerwch gip ar y wefan i gael rhagor o wybodaeth ac i weld llwybrau yn eich ardal.

Swansea Bayways

Caru eich Cynefin!

Ffansïo penwythnos rhamantus ym mhenrhyn Gŵyr (soniodd rywun am Prosecco?), noson glyd yng nghanol dinas Abertawe neu seibiant byr ger y môr yn y Mwmbwls? Gallwch roi trît i’ch cariad, eich teulu (ar yr amod mai dim ond y rhai sy’n byw gyda chi ‘yn nhw) a hyd yn oed eich anifail anwes drwy drefnu seibiant byr yn ystod y cyfnod clo lleol hwn heb adael yr ardal.

Mae llawer o’n gweithredwyr llety lleol yn cynnig cynigion arbennig yn benodol i breswylwyr Abertawe sydd am gael newid cynefin dros dro a’r ‘ddihangfa Hydrefol’ berffaith hwnnw – cymerwch gip ar y cynigion yma!

A chofiwch y gallwch ddal i fwynhau pysgod a sglodion ger y môr, hufen iâ yn y Mwmbwls (dyw hi byth yn rhy oer am hynny!), siocled poeth a theisen cartref flasus wrth edrych dros ein traethau arobryn neu bryd tri chwrs o flaen tanllwyth o dân! Dewiswch o amrywiaeth eang o leoedd i fwyta ac yfed yma ym Mae Abertawe; cadwch lygad am y rheini sydd wedi cyflawni’r achrediad ’Barod Amdani’, marc swyddogol y DU i ddangos bod busnes twristiaeth a lletygarwch wedi gweithio’n galed i ddilyn canllawiau COVID-19 y Llywodraeth a’r diwydiant ac wedi cynnal asesiad risg COVID-19.

Yr unig beth i’w wneud ar ôl i chi gadw lle yw pacio ambell ddilledyn a gadael! (Wedi’r cyfan ‘dych chi ddim yn mynd yn bell) Cofiwch bacio’ch mwgwd fel y gallwch Joio Bae Abertawe mewn ffordd gyfrifol.

Dangoswch i breswylwyr lleol eraill yr hyn sydd ar garreg eu drws drwy ddefnyddio’r stwnshnod #CaruEichCynefin pan fyddwch yn postio’ch lluniau ar gyfryngau cymdeithasol. Helpwch i gefnogi’ch busnesau lleol yn ystod yr amserau anodd hyn.

Gweithgareddau Difyr Gartref

Er bod lleoliadau ac atyniadau eraill ar gau o hyd, mae digonedd o weithgareddau ar-lein y gallwch chi eu gwneud gyda Chanolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Ac Yn Olaf… Joiwch Abertawe. Yn gyfrifol

Cofiwch, wrth i chi fynd o le i le yn mwynhau, dylech barhau i fod yn gyfrifol ac yn ystyriol a dilyn cyfarwyddiadau diogelwch penodol oherwydd rydym am i Abertawe fod yn lle diogel i’n preswylwyr a’n hymwelwyr, a dan reoliadau newydd Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ymwelwyr wisgo mygydau wyneb mewn unrhyw fan cyhoeddus dan do.