fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Diawl a'm cipio

Share

Diawl a’m cipio

Mae dilynwyr cyfres Poldark y BBC yn gwybod y cyfan am straeon Cernyw am smyglwyr a môr-ladron, ond dydyn nhw ddim yn fwy herfeiddiol na llond cwch Gŵyr o chwedlau coch. Mae’n wir y gallai’r penrhyn – â’i ogofeydd a’i faeau cudd, ei glogwyni aruchel a’i foroedd stormus – fod wedi’i ddylunio gan feddwl am gnafon, herwyr, llwythi anghyfreithlon ac anhrefn arforol. Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif – anterth smyglo – roedd Gŵyr, a oedd yn ymddangos yn gysglyd, yn fagwrfa smyglwyr. Roedd pwysigion lleol yn gweithredu bron heb gosb, yn cyflogi cannoedd o bobl ac yn llawer mwy medrus na’r awdurdodau tollau a oedd dan bwysau mawr.

Efallai bod y dyddiau hynny wedi hen fynd, ond dyw rhai pethau ddim wedi newid o gwbl. Sefwch ar y lan ar Gildraeth Brandi (dim gwobrau am ddyfalu sut cafodd ei enw) anghysbell, creigiog ac ni fyddai’n syndod petaech yn gweld smyglwyr wrth eu gwaith. Mae’n un o’r lleoedd niferus ar benrhyn Gŵyr sy’n gyfoeth o chwedlau bwganllyd am guddfannau, rhodfeydd cyfrin a gweithredoedd beiddgar.

 
 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Twll Culver

Wedi’i guddio mewn agen greigiog ger Porth Einon, mae Twll Culver hynafol y tu ôl i wal gerrig 60 tr. sy’n frith o ffenestri anghymharus. Credir iddi gael ei hadeiladu yn y 13eg neu’r 14eg ganrif fel colomendy, ac mae llu o straeon smyglo’n gysylltiedig â’r adeiledd rhyfedd. Yn ôl y chwedl, câi ei ddefnyddio gan yr herwr lleol pwerus John Lucas fel stordy. Mae sôn hyd yn oed am dwnnel dirgel – digon mawr i farchogaeth trwyddo, credwch neu beidio – a ddefnyddid i wenoli nwyddau gwaharddedig i’r Tŷ Halen gerllaw.

&nbsp


 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Llongddrylliadau suddedig

Peidiwch â chael eich twyllo gan y dyfroedd glas clir o gwmpas Gŵyr. Mae ganddyn nhw gyfrinachau suddedig. Mae’r arfordir creigiog yn llawn llongau a suddodd mewn moroedd stormus. Er bod rhai o’r llongddrylliadau hyn wedi’u cuddio o dan y tonnau, gellir gweld llawer o hyd ar faeau a thraethau Gŵyr. Ewch i Rosili i weld gweddillion yr Helvetia – llong o Norwy a ddrylliwyd ym 1887 – yn ymwthio’n annaearol o’r tywod. Neu ysbïwch olion metel gwyrdroëdig y Bluebell, a aeth ar lawr ger Twll Culver ym 1913.

&nbsp


 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Cildraeth Brandi

Mae’n hawdd gweld pam roedd Cildraeth Brandi (enw addas) yn boblogaidd gyda smyglwyr Gŵyr (yn enwedig y pwysigyn lleol William Hawkin Arthur a’i griw). Gyda chlogwyni creigiog sy’n ei guddio rhag llygaid busneslyd, prin oedd y lleoedd gwell ar y penrhyn i ddadlwytho llwyth anghyfreithlon o dybaco neu alcohol. Gan y gellir ei gyrraedd ar droed yn unig, mae’r traeth bychan yn dal i deimlo’n anghysbell ac yn gyfrinachgar hyd yn oed heddiw, byd i ffwrdd o fwrlwm Bae Caswell, hanner milltir yn unig ar hyd yr arfordir.

&nbsp


 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Pwll Du

Roedd William Hawkin Arthur yn adnabyddus fel un o smyglwyr mwyaf beiddgar y 18fed ganrif. Roedd Pwll Du anghysbell yng nghanol ei ymerodraeth droseddol am o leiaf dri rheswm. Gallai’r traeth cerigos diarffordd fod wedi’i greu’n bwrpasol ar gyfer dadlwytho llwythi anghyfreithlon. Y pentir 300 tr. o uchder oedd yr wylfa berffaith ac roedd dyffryn coediog Llandeilo Ferwallt yn rhoi digon o gysgod i symud nwyddau i mewn i’r tir ac, ar un adeg, roedd yn gludfelt prysur ar gyfer llwythi anghyfreithlon. Roedd dyfnderoedd coediog Gŵyr yn rhoi digon o gysgod ar gyfer gweithredoedd amheus, gan alluogi pennaeth smyglo Gŵyr a’i griw i symud llwythi anghyfreithlon o’r traeth ym Mhwll Du i’w pencadlys ar Fferm y Briffordd yn bell o olwg yr awdurdodau. Roedd y cyfan yn gwneud synnwyr. Credir y cyrhaeddodd mwy o nwyddau anghyfreithlon yma nag unrhyw le arall ym Môr Hafren. Gadawodd Arthur a’i ddynion eu hôl. Gallwch ddilyn eu hôl traed bwganllyd trwy gerdded y llwybr sydd bellach yn adnabyddus fel Lôn y Smyglwyr.

 


 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Oxwich

Doedd smyglwyr Gŵyr ddim yn ennill bob tro. Wrth geisio dadlwytho llwyth yn Oxwich ym 1804, gofynnodd smyglwyr i ddau ddyn a oedd yn cerdded ar y traeth am gyfarwyddiadau i Fferm y Briffordd, prif arhosfan un o griwiau smyglo mwyaf Gŵyr. Yn anffodus i’r herwyr truenus, roedd y ddau ddyn yn digwydd bod yn swyddogion tollau. Yn fuan wedyn, yn ystod cyrch ar Fferm y Briffordd, canfuwyd 420 o gasgenni o wirodydd wedi’u cwato mewn selerau cudd ac arweiniodd at chwalu’r criw.

&nbsp


 
Swansea Bay Piracy and Smuggling

Porth Einon

Mae pentref bach darluniadwy Porth Einon yn gyfrifol am gryn dipyn o benodau yn stori smyglo goch Gŵyr, diolch i’r drwg-enwog John Lucas. Ar ôl treulio blynyddoedd dramor (fel môr-leidr yn ôl y sôn), dychwelodd Lucas i’w ardal frodorol, Gŵyr, ac aeth ati i addasu’r Tŷ Halen gerllaw, sydd bellach yn adfail, yn bencadlys ar gyfer ei ymgyrch smyglo. Mae chwedlau’n sôn am selerau cudd a drysfa o dramwyfeydd cyfrin, ffugchwedlau efallai gan nad yw archwiliadau archaeolegol modern wedi dod o hyd i lawer o dystiolaeth i’w hategu.