fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Somerfield Lodge B & B

Mae llety Gwely a Brecwast Somerfield Lodge ger mynedfa penrhyn hardd Gŵyr, ac mae wrth ymyl Clwb Golff y Clun.

Make a booking

01792 401989

http://www.somerfieldlodge.co.uk

Croeso Cymru * * * *

Somerfield Lodge B & B

Mae Somerfield Lodge ger mynedfa penrhyn hardd Gŵyr, sef Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU. Mae wrth ymyl Clwb Golff y Clun ac mae ganddo 6 ystafell ddwbl ag en suite, gyda chawod bwerus ym mhob un ohonynt. Mae digon o le parcio am ddim ar gael yn ogystal â Wi-Fi am ddim. Mae brecwast llawn ffres wedi'i gynnwys yn y pris, ac mae gan westeion fynediad i holl gyfleusterau'r clwb golff, gan gynnwys y bar a'r ystafell fwyta. Mae ein holl fwyd wedi'i goginio ar y safle, ac mae dewis eang ar gael, o brydau bar syml i brydau 3 chwrs blasus.

Mae gan y clwb ddau far, gydag un ohonynt yn cynnig golygfeydd panoramig o'r cwrs golff, a'r llall yn cynnig golygfa wych o'r môr ym Mae Abertawe. Mae'r holl ymwelwyr preswyl hefyd yn gallu manteisio ar ffïoedd glaslawr is wrth chwarae yng Nghlwb Golff y Clun, sef un o gyrsiau golff gweundir 18 twll gorau Cymru a ddyluniwyd gan Harry Colt yn y 1920au.

Gall gwesteion archwilio tref glan môr y Mwmbwls sydd o fewn 2 filltir i'r llety. Mae'n cynnig caffis a chyfleusterau siopa ardderchog. Beth am ymweld â Chastell Ystumllwynarth (sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif) neu gerdded ar hyd y promenâd sy'n edrych dros Abertawe a Môr Hafren? Bydd taith car 5 munud o'r Mwmbwls yn arwain ymwelwyr at galon penrhyn Gŵyr lle ceir 19 milltir o harddwch, traethau a baeau.

Mae Sommerfield Lodge hefyd yn agos at ddinas Abertawe, a Phrifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton yn bennaf, sy'n daith 5 milltir i ffwrdd yn y car.

Designation

Gwely a brecwast

Somerfield Lodge B & B
Cyfleusterau
Derbynnir cardiau Croeso i blant Ystafelloedd ag ensuite Prydau nos ar gael Croeso i deuluoedd Teledu Freeview Sychwr gwallt Cyfleusterau haearn smwthio Trwyddedig Lifft Parcio ar y safle Parcio preifat Bwyty / Caffi Teledu lloeren Seibiannau byr ar gael Te / coffi yn yr ystafelloedd Dim smygu o gwbl Teledu yn yr ystafelloedd Wi-Fi Cyfleusterau cyfarfod

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Cyswllt

Cyfeiriad post

Clyne Golf Club
118-120 Owls Lodge Lane
Mayals
Swansea
SA3 5DP

www.somerfieldlodge.co.uk

E-bost

manager@clynegolfclub.com

Ffoniwch ni

01792 401989

Gwobrau

Croeso i Gerddwyr

Croeso i Gerddwyr

Croeso i feicwyr

Croeso i feicwyr

Trip Advisor Certificate of Excellence 2015

Trip Advisor Certificate of Excellence 2015

Achrediadau

Golf Union of Wales

Golf Union of Wales

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

* * * *

Tariffau

  • Cyfanswm yr ystafelloedd 6
  • Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £72.00