fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Oystermouth Castle

Newyddion gwych - bydd Castell Ystumllwynarth yn ailagor ei gatiau ar gyfer teithiau tywys dros wyliau'r haf! Mae Castell Ystumllwynarth yn ailagor ar gyfer tymor 2022 o 2 Ebrill tan 30 Medi, gan gynnwys penwythnosau drwy gydol fis Hydref.

Make a booking

http://www.swansea.gov.uk/oystermouthcastle

Partner Swyddogol

Partner Swyddogol

Oystermouth Castle

Mae Castell Ystumllwynarth yn ailagor ar 25 Mawrth ar gyfer tymor 2024. Bydd y castell ar agor bob dydd o 11am i 5pm (mynediad olaf 4:30pm) ac eithrio dydd Mawrth. Bydd y castell yn aros ar agor tan 30 Medi. Bydd ar agor drwy gydol mis Hydref ar y penwythnosau.

Cynhelir y castell gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth a nhw sy'n gyfrifol am redeg y castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored. Maent hefyd yn cynnal digwyddiadau llwyddiannus drwy gydol y flwyddyn, o'r diwrnod Tywysogion a Thywysogesau i hwyl Calan Gaeaf!

Mynediad 2024

· Safonol £6
· Consesiynau £4
· PTL Abertawe £3
· Tocyn teulu (2 oedolyn a 3 phlentyn) £18
· Tocyn teulu (1 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) £12
· Plant dan 5 oed am ddim
· Tocyn Tymor ar gael - holwch yn y castell


Lleolir Castell Ystumllwynarth ar ben y bryn yn y Mwmbwls gan gynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe.

Mae dros 600 o gestyll yng Nghymru, ond does dim llawer â golygfa well na'r un yma!

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r castell wedi bod yn destun gwaith cadwraeth i sicrhau bod y castell yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol rhagweladwy. Nawr gall y cyhoedd archwilio rhannau o'r castell sydd wedi bod yn gudd ers canrifoedd a dysgu am hanes cyffrous y castell.

Mae nodweddion yn cynnwys celf graffiti hynafol o'r 14eg ganrif a gall pobl ddod i archwilio'r ddrysfa ganoloesol o gromgelloedd dwfn a grisiau cudd a mwynhau golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe.

Oystermouth Castle
Cyfleusterau
Croeso i blant Croeso i deuluoedd Toiledau yn y maes parcio/gerllaw Caniateir cŵn – Cyfyngiadau mynediad Groups Welcome

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
No No Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes No No

Diwrnodau agored

MON TUE WED THU FRI SAT SUN
Yes No Yes Yes Yes Yes Yes

Oriau agor

Mae Castell Ystumllwynarth - bellach ar agor ar gyfer tymor 2024! Bydd y castell ar agor bob dydd o 11am i 5pm (mynediad olaf 4:30pm) ac eithrio dydd Mawrth. Bydd y castell yn aros ar agor tan 30 Medi. Bydd ar agor drwy gydol mis Hydref ar y penwyth

Cyswllt

Cyfeiriad post

Castle Avenue
Mumbles
Swansea
SA3 4BA

www.swansea.gov.uk/oystermouthcastle

Gwobrau

Achrediadau

Quality Assured Visitor Attraction

Quality Assured Visitor Attraction

Hygyrchedd