Cyfnewidiwch y bwrlwm trefol am olygfeydd llyn llonydd Gwesty'r Mercure Abertawe, sy'n borth i benrhyn Gŵyr a Bannau Brycheiniog.
01792 626371
https://www.mercureswansea.co.uk/
* * *
Mercure Swansea
Croeso i Westy'r Mercure Abertawe.
Ymlaciwch ar garreg drws cefn gwlad cyffrous Cymru yng Ngwesty'r Mercure Abertawe yng Ngorllewin Morgannwg. Ar ôl troedio'r bryniau a'r arfordir yn ystod y dydd, dewch yn ôl i fwynhau diod ger tân twym yn ein bar clyd neu ewch i Abertawe am ddiwrnod o siopa a noson allan yn y dref.
Dewch i flasu'r cynnyrch lleol gorau a'r danteithion arbennig sydd ar fwydlen dymhorol ein bwyty. Gall gwesteion busnes sydd wedi gweithio'n galed drwy'r dydd yn ein 8 ystafell gyfarfod hyblyg ymlacio drwy ddefnyddio cyfleusterau ein clwb iechyd.
Bydd plant yn dwlu ar Westy'r Mercure Abertawe, gyda phwll dan do a thraethau cyfagos a fydd yn eu difyrru am oriau.
Mae Gwesty'r Mercure Abertawe dair milltir o ganol dinas Abertawe mewn gerddi sydd wedi'u tirlunio. Mae traethau penrhyn Gŵyr 5 milltir i ffwrdd a gellir cerdded i Stadiwm Liberty.
Mae'n holl ystafelloedd yn cynnwys teledu sgrîn wastad a WiFi safonol am ddim. Beth am drefnu i aros yn ein hystafelloedd breintiedig o'r radd flaenaf, lle cewch WiFi cyflym iawn am ddim, ffilmiau diderfyn, peiriant coffi Nespresso, gŵn nos, sliperi a phapur newydd.
Mae gan ein 8 ystafell gyfarfod â gwasanaeth cyflawn fynediad i'r rhyngrwyd, ac mae'n gerddi ger y llyn yn cynnig cefndir nodedig i'ch parti priodas.
Gwesty
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Green Tourism Silver Award
Swansea Bay Tourism Award Highly Commended 2017
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * *
Tariffau
Hygyrchedd