Croeso, ewch i'n gwefan: Maddocks' Cakes from Wales lle gallwch archebu o'n hamrywiaeth o bice ar y maen cartref Cymreig a goginiwyd ar faen traddodiadol i'w casglu neu i'w dosbarthu'n syth i'ch drws. Mae ein teisennau hefyd ar gael yn Swyddfa Bost Murton ac yn Joe's yn y Mwmbwls.
07939360437
Partner Swyddogol
Maddocks Cakes From Wales Ltd
Archebwch eich pice ar y maen eich hun gan Maddocks sydd wedi ennill gwobr "Gwir Flas Cymru" ac anfonwch ddarn bach o Gymru mewn blwch rhodd hyfryd i rywun arbennig gyda'ch neges bersonol.
Mae Cakes from Wales Ltd yn cynnig y teisennau cartref Cymreig gorau i chi yn union fel y mae "mam yn eu gwneud".
Mae ein pice ar y maen ni'n deisennau bach sbeislyd, gwastad, llawn ffrwyth.
Mae Pat hefyd yn pobi pice ar y maen ar gyfer achlysuron arbennig gan gynnwys: ffafrau priodas, rhoddion corfforaethol, dathliadau teuluol a digwyddiadau lle daw pobl ynghyd.
Mae pob blwch rhodd yn cynnwys ugain (20) o bice ar y maen mewn dau stribed o ddeg (10).
Dewiswch ddau fath, o rai wisgi Cymreig, cyrens neu syltanas.
Mae'r blychau rhodd a anfonir wedi'u lapio'n blaen ac yn ffitio drwy flwch llythyrau DU safonol.
Mae pob blwch rhodd o ugain pic ar y maen yn costio £18.00 sy'n cynnwys taliadau dosbarthu'r DU.
Ar gyfer cyrchfannau eraill ar draws y byd, ychwanegwch £9.00 y blwch rhodd o ugain pic ar y maen.
Mae Maddocks Cakes From Wales wedi bod yn pobi ac yn anfon pice ar y maen mewn blychau rhodd i bedwar ban byd am y 15 mlynedd diwethaf. Rydym wedi anfon rhai i deulu brenhinol y DU a phobl adnabyddus yn y byd ffilm a theledu. Mae Senedd Ewrop a swyddogion Llywodraeth y DU ac UDA hefyd wedi mwynhau pice ar y maen Maddocks fel rhoddion corfforaethol i hyrwyddo Cymru a chynnyrch o Gymru.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Maddocks Cakes From Wales Ltd
64 Southgate Road,
Southgate,
Gower,
Wales
SA3 2DH
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
Bwyd
Hygyrchedd