fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
Page menu
Cysylltwch
Ychwanegu at y Llyfryn Gwyliau

Langland Bay House Bed & Breakfast

Mae Tŷ Bae Langland mewn gardd fawr breifat, gan gynnig golygfeydd di-dor o'r bae a'r penrhyn.

Make a booking

01792 367241

http://www.langlandbayhouse.com

Croeso Cymru Awaiting Grading

Langland Bay House Bed & Breakfast

Ein nod yw cynnig arhosiad pleserus, hamddenol a phersonol i ymwelwyr ym Mae Langland yn y lleoliad traddodiadol i deuluoedd hwn sydd â chabanau dymunol o Oes Victoria yn amlinellu'r promenâd. Rydym ni'n agos iawn i'r Mwmbwls os hoffech gerdded yno i ymweld â'r castell, tafarndai a thai bwyta, ac mae'n dro byr yn y car i gestyll a thraethau lleol penrhyn Gŵyr, neu'n ymhellach eto i'r Mynydd Du, Bannau Brycheiniog a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Rydym wedi'n lleoli'n berffaith ar gyfer llawer o weithgareddau. Mae RNLI yn gwylio dros y traeth tywodlyd yn ystod y gwyliau ac mae cyrtiau tenis caled a chwrs golff trawiadol gerllaw. Mae cerdded, beicio, nofio, syrffio neu bysgota oll yn weithgareddau lleol i'w mwynhau, ac mae hyfforddiant ar gael.

Rydym yn coginio brecwast Cymreig traddodiadol, sy'n cael ei weini yn yr ystafell fwyta sy'n edrych allan dros y traeth, gan gynnwys ein bara lawr ein hunain a chan ddefnyddio cynnyrch lleol a chartrefol. Mae brecwast llysfwytäol a chyfandirol hefyd ar gael. Mae digon o le i barcio oddi ar y ffordd, garej diogel i feiciau, cyfleusterau sychu a Wi-Fi am ddim. Os ydych chi am ymgilio o'r byd, mae rhwydwaith ffonau symudol yn gyfyngedig, felly dewch i ymlacio ac ymdrochi yn harddwch Cymru!

Designation

Gwely a brecwast

Cyfleusterau
Ystafelloedd ag ensuite Prydau nos ar gael Sychwr gwallt Cyfleusterau haearn smwthio Parcio ar y safle Parcio preifat Teledu lloeren yn yr ystafell Te / coffi yn yr ystafelloedd Dim smygu o gwbl Teledu yn yr ystafelloedd Wi-Fi

Amserau agor

JAN FEB MAR APR MAY JUN JUL AUG SEP OCT NOV DEC
Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes Yes

Cyswllt

Cyfeiriad post

Langland Bay House
27 Langland Bay Road
Swansea
SA3 4QP

www.langlandbayhouse.com

E-bost

enquiries@langlandbayhouse.com

Ffoniwch ni

01792 367241
00447778596973

Gwobrau

Croeso i Gerddwyr

Croeso i Gerddwyr

Croeso i feicwyr

Croeso i feicwyr

Adolygiadau

Croeso Cymru

Croeso Cymru

Awaiting Grading

Tariffau

  • Cyfanswm yr ystafelloedd 1
  • Prices (B&B per room, assuming twin/double occupancy) from £135.00