Eiddo helaeth a chyfforddus sy'n derbyn anifeiliaid anwes yw Gower Edge, sydd wedi'i leoli ar ymyl mewnol penrhyn hardd Gŵyr, ac yn agos at Fae Abertawe.
01608 674467
http://www.gower-self-catering.co.uk
* * *
Gower Edge Holidays
Mae lle i hyd at 8 gwestai mewn 4 ystafell wely ddwbl (1 maint brenin a 3 ystafell â dau wely sengl) gyda digon o le yn y tair lolfa lawr llawr i chi ymlacio. Rydym hefyd yn derbyn anifeiliaid ac yn hapus i dderbyn sawl anifail. Ni chodir tâl ychwanegol am Wi-Fi fel y gallwch aros mewn cysylltiad, ac mae lle i hyd at dri char o flaen yr eiddo.
P'un a ydych chi'n ystyried mynd ar wyliau gyda'r teulu neu am gwrdd â'ch ffrindiau, mae ardal Bae Abertawe a Gŵyr yn wych i'w ymweld â hi ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Gallech ffurfio tîm golff a chwarae cwrs gwahanol bob dydd; gwylio sioe yn Theatr y Grand Abertawe a mwynhau pryd o fwyd yn y Mwmbwls ar ôl bod allan ar grwydr; gallwch ddarganfod hanes yr ardal, o gestyll i gloddio am gopr; neu gallwch droi ymweliad i gefnogi'ch tîm pêl-droed yn wyliau byr. Mae Gower Edge hefyd yn ddefnyddiol fel lle i aros os ydych yn gweithio yn yr ardal, neu fel lle i'w brydlesu am gyfnod byr os ydych yn symud/adeiladu tŷ, a byddwn yn ystyried dyddiadau trosglwyddo ansafonol y tu allan i'r tymor.
Mae ein cegin llawn cyfarpar yn cynnwys ffwrn tanwydd deuol; peiriant golchi llestri; oergell-rewgell a microdon. Mae'r peiriant golchi dillad a'r peiriant golchi llestri yn yr ystafell wydr, sy'n edrych dros yr ardd gefn. Mae gan yr ystafell ymolchi teulu fath cornel a chawod ar wahân, gyda thoiled ychwanegol ar y llawr gwaelod. Y tu allan mae ystafell wydr a gardd breifat i gefn yr eiddo ac mae siop leol oddeutu 300 llath i ffwrdd.
Os ydych chi'n chwilio am seibiant difyr a hamddenol mewn eiddo mawr â digon o gyfarpar a mynediad da i holl draethau Gŵyr a Bae Abertawe, Gower Edge yw'r tŷ i chi. Allwch chi deimlo'r haul ar eich wyneb a'r tywod rhwng eich bysedd traed eto? Welwn ni chi yno!
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Lawrlwythiadau
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Trip Advisor 2017 Certificate of Excellence
Achrediadau
Tourism Swansea Bay Member
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * *
Tariffau