Dwy ganolfan wych yn Rhosili a Phorth Einon, wedi'u lleoli'n unigryw i archwilio'r holl antur sydd ar gael ym Mhenrhyn Gŵyr
01792 390481
http://www.goweractivitycentres.co.uk
Partner Swyddogol
Gower Activity Centres
Trwy ddarparu gweithgareddau anturus yn yr awyr agored ar draws Gŵyr a'r ardaloedd cyfagos ers dros 40 mlynedd, mae gan Ganolfannau Gweithgareddau Gŵyr yr arbenigedd i roi'r profiad gorau posib i chi pan fyddwch yn penderfynu ei bod hi'n #AmserDarganfodGŵyr
Rydym yn cynnig y cyfle i wneud ystod o weithgareddau sydd wedi'u dylunio i fod yn ddiogel, yn heriol ac yn hwyl ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae gan ein tîm addysgu a hyfforddi profiadol arbenigedd mewn gweithio gyda grwpiau o blant, pobl ifanc ac oedolion. Gellir rhoi cynnig ar ein gweithgareddau fel rhan o ymweliad preswyl neu drwy drefnu sesiynau gweithgareddau unigol. Gellir gweld manylion ein canolfannau preswyl yn https://www.dewchifaeabertawe.com/listings/gower-activity-centres-group-accommodation-yha-partner/
• Abseilio
• Adeiladu Timau
• Dringo Creigiau
• Môr-greigio
• Arfordiro
• Syrffio
• Canŵio
• Cerdded bryniau/llywio
• Cyfeiriannu
• Beicio
• Caiacio
• Cerdded Ceunentydd
• a mwy
I bob oedran, gan gynnwys ymwelwyr iau:
• Astudiaethau Glan y Môr
• Astudiaethau Coetir
• Astudiaethau Afonydd
• Celf Traeth a Chelf Coetir
• Teithiau Cerdded Tywys
• Teithiau Cerdded Antur
• Neidio o Graig i Graig
• Dringo Creigiau ac Abseilio
• Caiaco (eistedd ar ben)
• Rafftio Byrfyfyr
Pecynnau cwricwlwm hefyd ar gael gan gynnwys:
• Cwricwlwm AG – CA3 a CA4
• TGAU Cyfeiriannu/Merlota: Gweithgareddau Awyr Agored ac Anturus (Edexel)
• TGAU Cerdded Bryniau: Gweithgareddau Anturus (CBAC)
• TGAU Syrffio (CBAC)
• TGAU Dringo Creigiau (Edexel a CBAC)
• Cwricwlwm Daearyddiaeth - astudiaethau maes CA3 a CA4
• TGAU Daearyddiaeth: Astudiaethau'r Arfordir
• Antur Awyr Agored a'r Amgylchedd CA1 - CA2
Gwybodaeth ychwanegol:
• Hyfforddwyr achrededig Corff Llywodraethu Cenedlaethol
• 1 hyfforddwr ar gyfer pob 12 person
• Darperir yr holl hyfforddiant a chyfarpar
• Lleoedd am ddim i athrawon/arweinwyr grŵp
• Gweithgareddau dŵr ar gael o fis Ebrill i fis Hydref.
• Gweithgareddau ar gael yn ogystal â phecynnau cwricwlwm
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Open Early - Late
Cyswllt
Gower Activity Centres
Borfa House
Port Eynon
Swansea
SA3 1NN
Gwobrau
Swansea Bay Tourism Awards - Finalist
Achrediadau
Adventure Activities Licensing Authority (AALA)
Mountain Training Wales (MTW)
Canoe Wales
Institute for Outdoor Learning
National Coasteering Charter (NCC)
Tourism Swansea Bay Member
Hygyrchedd