Yn gorwedd yng nghornel de-orllewin Penrhyn Gŵyr, mae ein bythynnod hunanarlwyo yn ddelfrydol i chi archwilio traethau godidog Gŵyr.
* * * *
Pylewell Annex
Yn gorwedd yng nghornel de-orllewin Penrhyn Gŵyr, mae ein bythynnod hunanarlwyo yn ddelfrydol i chi archwilio traethau a chlogwyni godidog Gŵyr.
Yn wreiddiol yn adeiladau fferm cerrig, mae ein bythynnod wedi cael eu hadnewyddu i fod yn gartrefol ac yn gysurus. Mae gan bob bwthyn gegin lawn, gan gynnwys golchwr llestri a rhewgell-rewgist, lolfa gysurus, DVD, Freeview a hyd yn oed WiFi i'ch helpu i ymlacio ar ôl diwrnod o fwynhau'r awyr iach. Croesewir anifeiliaid anwes, maen nhw'n haeddu gwyliau hefyd! Gallwch ddod â'ch ceffyl gan y gallwn ddarparu stablau, lifrai a phorfa wych.
Wedi'i leoli ar lôn dawel sydd 5 munud yn unig ar droed o bentref Scurlage, un o ychydig bentrefi ar benrhyn Gŵyr sy'n cynnwys siop, tafarn, meddygfa a fferyllydd. Rydym 5 munud yn unig mewn car o Rosili, y traeth gorau ym Mhrydain a'r 9fed gorau yn y byd!
Mae Penrhyn Gŵyr yn drysor dilychwyn sy'n aros i chi ei archwilio. Y Penrhyn oedd y cyntaf ym Mhrydain i dderbyn anrhydedd 'Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' ac mae'n cynnwys rhai o'r golygfeydd mwyaf anhygoel, y bywyd gwyllt cyfoethocaf a'r cynefinoedd mwyaf amrywiol yn y DU.
Mae ein bythynnod wedi'u lleoli mewn lle delfrydol ar gyfer cerdded, gwylio adar neu ymlacio. Mae llwybr arfordir Gŵyr yn agos ac mae'n arwain at Horton, Oxwich a Bae Tri Chlogwyn i'r dwyrain. Mae Porth Einon a Rhosili i'r gorllewin ac ymlaen at harddwch gogledd Gŵyr, gyda'i gwarchodfeydd adar a'i harfordir garw.
Gobeithio y byddwch yn hoffi'r hyn y gwelwch ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Hunanarlwyo
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Pylewell
Pilton Green
Rhossili
Gower
Swansea
SA3 1PQ
Gwobrau
Croeso i Gerddwyr
Croeso i feicwyr
Adolygiadau
Croeso Cymru
* * * *
Tariffau
Hygyrchedd